Fe fydd Cered (Menter Iaith Ceredigion) ar y cyd gyda Chanolfan Hamdden Caron yn cynnal gweithdy radio yn y ganolfan hamdden yn Nghregaron ar nos Wener 18 Ionawr am 7pm. Yn rhedeg y gweithdy fydd MarciG o Radio Cymru. Croeso i bobi ifanc oedran 10-16, iaith gyntaf ac ail iaith i!!

Pwrpas y noson yw rhoi cyfle i bobl ifanc creu rhaglenni radio trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfle ffantastig i bobl ifanc gymdeithasu yn y Gymraeg tu allan yr ysgol, yn ogystal a magu hyder a datblygu sgiliau cylfwyno. Fe fydd y gweithdy am ddim, ni fydd yna dâl mynediad! Am fanylion pellach cysylltwch â Cered ar rhodri.francis@ceredigion.gov.uk (01970) 633854.

11/01/2019