Roedd dau o weinidogion amlwg y DU a Llywodraeth Cymru yn Llandrindod ar ddydd Iau, 26 Ebrill, i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru gydag arweinyddion cyngor y rhanbarth.

Cyfarfu Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne ac Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates AC ag Arweinydd Cyngor Sir Powys Rosemarie Harris ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Ellen ap Gwynn i drafod y weledigaeth i dyfu economi canolbarth Cymru. Hefyd yn bresennol yn y cyfarfod Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Alun Cairns, sef Glyn Davies, AS.

“Gall bargeinion twf ail-lunio datblygiad economaidd rhanbarth, felly rwy’n croesawu’r ymrwymiad i fargen twf ar gyfer Canolbarth Cymru,” meddai’r Cynghorydd Harris.

“Gallai unrhyw fargen twf i Ganolbarth Cymru wella’r seilwaith cludiant, a chreu cysylltedd digidol yn ogystal â helpu i ddatblygu cyfleoedd gwaith i’r rhanbarth. Byddai hyn o fudd enfawr i Bowys ac i Gymru yn ei chyfanrwydd. Rydym yn awyddus i ddatblygu economi ffyniannus ym Mhowys a bydd bargen twf i Ganolbarth Cymru yn ein helpu i gyflawni hynny.”

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae trafod y fargen benodol rhwng Ceredigion a Phowys i ddatblygu a thyfu economi canolbarth Cymru gyda’r Gweinidog, yr Arglwydd Bourne, Ken Skates AC a Glyn Davies AS yn garreg filltir bwysig.

“Gyda gweledigaeth glir, mae gan Fargen Twf Canolbarth Cymru’r gallu i fod o fudd i Geredigion a rhanbarth Canolbarth Cymru’n gyffredinol. Bydd cynnwys y sector preifat yn bartneriaid yn ein galluogi i greu cyfleoedd gwaith newydd i’n pobl ifanc.”

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Bourne: “Ledled y sir, mae gan fargeinion twf y gallu i agor y drws i fuddsoddi ac arloesi newydd. Rwyf wedi fy argyhoeddi bod gan Ganolbarth Cymru yn un potensial.

“Mae cyfarfod ag arweinyddion awdurdod lleol yn hanfodol er mwyn ceisio deall beth fydd yn galluogi llwyddiant Bargen Twf Canolbarth Cymru. Sefydliadau a phobl leol sy’n adnabod eu rhanbarth orau – felly mae’r her i arweinwyr cynghorau Powys a Cheredigion i ymuno â Llywodraeth Cymru, busnesau ac eraill i ddylunio gweledigaeth drawiadol ar gyfer Canolbarth Cymru.

“Mae Llywodraeth DU yn agored i fargen twf ar gyfer y rhan hon o Gymru – a gobeithiaf y bydd sesiwn heddiw’n gatalydd fydd yn ein hysgogi i ddechrau ar y llwybr hwnnw gyda chynigion dewr a chyffrous.”


Llun: Cyfarfod yn Llandrindod i drafod Bargen Twf Canolbarth Cymru, gyda (o’r chwith i’r dde) Glyn Davies AS, Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Alun Cairns; Ken Skates AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru ar faterion yr Economi a Thrafnidiaeth; y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd Cyngor Sir Powys; Yr Arglwydd Bourne, Gweinidog Llywodraeth y DU; a’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

08/05/2018