Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi creu gwefan newydd sydd wedi ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad â phobl ifanc.

Bydd y wefan yn ganolbwynt i bobl ifanc, eu teuluoedd ac i unrhyw un arall sy’n dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am waith y gwasanaeth, yn ogystal â rhannu gwybodaeth gyda’r defnyddwyr am y cyfleoedd a digwyddiadau sydd ymlaen yng Ngheredigion. Bydd hefyd yn cynnwys blogiau a grëwyd gan bobl ifanc ar draws y sir.

Dywedodd Gethin Jones, Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, "Mae lleisiau pobl ifanc yn holl bwysig i bob agwedd o waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Dywedodd y bobl ifanc bod yna angen am wefan i’r Gwasanaeth Ieuenctid, yn ychwanegol i’n tudalennau cymdeithasol ni, a ddilynir gan tua 700 o bobl. Mae’n ddyddiau cynnar i’r wefan, ac mewn amser rydym yn gobeithio y bydd yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion gwahanol.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys gwaith ieuenctid mewn ysgolion, gwaith ieuenctid allgymorth a chlybiau ieuenctid.

Ewch i weld y wefan newydd: www.giceredigionys.co.uk/hafan/. I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar beth mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gynnig, dilynwch ar Facebook a Twitter @GICeredigionYS.

25/05/2018