Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ailddechrau ei wasanaethau casglu gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd yn fuan.

Ataliwyd y gwasanaethau ar ddechrau pandemig COVID-19 fel y gallai’r Cyngor ganolbwyntio ei adnoddau ar ddarparu ei wasanaethau casglu gwastraff craidd yn ystod y cyfnod hwn. Esboniodd llefarydd ar ran y Cyngor, “Drwy gydol COVID-19, ein blaenoriaeth oedd iechyd a diogelwch ein staff a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, ac mae hynny’n parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.”

“Cafodd y cerbydau a’r staff a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaethau gwastraff cartref swmpus a gwastraff gardd eu hadleoli fel y gallai’r gwasanaeth craidd weithredu’n ddiogel a chydymffurfio â gofynion cadw pellter cymdeithasol.

“Gan fod y cyfyngiadau wedi llacio rydym wedi gallu adolygu ein gweithgareddau a gallwn nawr geisio ailgyflwyno’r gwasanaethau hyn yn ddiogel,”

Bydd y gwasanaethau’n ailddechrau’n raddol, a bydd modd trefnu casgliad gwastraff cartref swmpus o 18 Ebrill ymlaen a threfnu casgliad gwastraff gardd o 25 Ebrill ymlaen. Gofynnir i breswylwyr drefnu gwasanaeth dim ond os nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o ddelio â’r gwastraff, er mwyn sicrhau bod ailgyflwyno’r gwasanaethau hyn yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y gwasanaeth craidd.

I ddechrau, bydd archebion ar gyfer y gwasanaeth gwastraff gardd ar gael i’r rheini sydd eisoes â bagiau yn barod i’w casglu.

Bydd bagiau gwastraff gardd ar gael o lyfrgelloedd y Cyngor yn Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, a Cheinewydd o 23 Mai ymlaen.

Hoffem ddiolch i’n preswylwyr am eu hamynedd yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn, ac edrychwn ymlaen at allu ailgyflwyno’r gwasanaethau gwerthfawr hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar gael ar y tudalennau, 'Gwastraff  o’r Ardd' a ' Eitemau Swmpus i'w Gwaredu’ ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk.

19/04/2022