Cafodd astudiaeth o’r angen i ddatblygu darpariaeth ieuenctid symudol yng Ngheredigion ei chynnal yn ddiweddar gan Wavehill, drwy Cynnal y Cardi, comisiynwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion (GIC).

Roedd yr astudiaeth yn ymchwilio i ddarpariaeth symudol fel modd o ymestyn gwasanaethau yn rhannau mwy gwledig y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Rwy’n falch bod Cynnal y Cardi wedi gallu cefnogi’r astudiaeth ddichonoldeb hon. Mae hyn wedi darparu cyfle i ymgysylltu â’n pobl ifanc lleol, gan eu hannog i ddweud eu barn er mwyn i ni lunio gwasanaethau sy’n addas i’w diben.”

Ariannwyd yr astudiaeth drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn nodi’r cyfyngiadau ariannol, ynghyd â’r problemau sy’n ymwneud â natur wledig Ceredigion, sy’n golygu bod dulliau dyfeisgar er mwyn darparu gwasanaethau yn angenrheidiol. Byddai darpariaeth ieuenctid symudol yn cefnogi’r Gwasanaeth Ieuenctid i ddatblygu darpariaeth ieuenctid mewn rhannau gwledig yng Ngheredigion, ehangu’r ddarpariaeth allgymorth, a darparu adnodd i’r Gwasanaeth Ieuenctid lle gellir gwneud mwy o waith ieuenctid ar y stryd.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol am Ddysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Fel cyngor, mae angen i ni sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn addas i drigolion Ceredigion ac yn hawdd cael gafael arnynt. Mae GIC, fel nifer o wasanaethau eraill, wedi bod yn rhagweithiol yn y blynyddoedd diwethaf drwy ddatblygu ac addasu ei ddarpariaethau i fodloni’r newidiadau yn anghenion ei aelodau. Mae hyn wedi bod yn amlwg yn y gwaith wedi’i dargedu a ddarperir mewn ysgolion a lleoliadau ôl-16. Ein canolbwynt yn awr yw datblygu’r agweddau cymunedol, er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn agored i holl bobl ifanc y sir. Rydym yn gobeithio y gall yr adroddiad hwn hysbysu pobl am fuddion dulliau ymgysylltu dyfeisgar, yn enwedig i’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd mwy gwledig.”

“Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn awyddus i ddatblygu darpariaeth gwaith ieuenctid er mwyn bodloni anghenion ei gymunedau, drwy ddarparu gwasanaethau cynhwysol ac ataliol yn fwy lleol, sydd wedi’u hintegreiddio ac sy’n ategu gwaith gwasanaethau pob oed.”

“Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn gadarn ac mae wedi cael atebion a barn gan ystod eang o bartneriaid, grwpiau cymunedol, ac yn bwysicaf oll pobl ifanc. Mae’n ymddangos bod consensws cryf y byddai darparu gwasanaethau symudol yn ein galluogi i ehangu ein capasiti a chynnig mwy o waith ieuenctid i’n cymunedau.”

Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i ddatblygu cynllun i geisio am a sicrhau cyllid gan gyrff priodol, er mwyn cefnogi eu gweledigaeth o ddatblygu’r gwasanaeth i ganolbwyntio mwy ar y gymuned a’i phobl.

Am gopi o’r adroddiad, neu i gael gwybod sut y gallwch fod yn rhan o brosiectau’r Gwasanaeth Ieuenctid, cysylltwch â youth@ceredigion.gov.uk a chofiwch eu dilyn ar y Cyfryngau Cymdeithasol drwy chwilio am GICeredigionYS ac ewch i’r wefan www.giceredigionys.com

 

12/02/2019