Bydd llyfrgelloedd y sir yn ailagor yn rhannol mewn modd diogel y mis hwn trwy gynnig gwasanaeth clicio a chasglu i gwsmeriaid

O 22 Mehefin 2020 ymlaen, bydd modd i bobl archebu a chasglu eitemau o lyfrgelloedd Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Llanbed.

Mae’r gwasanaeth clicio a chasglu yn golygu y gallwch archebu llyfrau ar-lein, neu drwy ffonio’r llyfrgelloedd, ac yna trefnu amser i gasglu’r eitemau.

Er hyn, nid oes modd ailagor y llyfrgelloedd yn llwyr i chi bori trwy’r llyfrau, defnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus, argraffu na llungopïo. Felly, dylech ond ymweld â’r llyfrgell i ddefnyddio’r gwasanaeth clicio a chasglu.

Sut y mae’r gwasanaeth clicio a chasglu yn gweithio?

• Byddwch yn gallu archebu llyfrau naill ai trwy chwilio ar y catalog ar-lein, neu trwy siarad â ni dros y ffôn.
• Byddwn yn casglu eich llyfrau o’r silffoedd ac yn eu rhoi mewn bag wedi’i labeli a fydd yn cael ei adael heb ei gyffwrdd am gyfnod cwarantîn o 72 awr.
• Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser i chi ddod i gasglu’r eitemau.
• Byddwch yn cael slot o 30 munud i gasglu’r eitemau, a byddwn yn cyfyngu’r nifer i dri pherson yn unig ar gyfer pob slot 30 munud.
• Byddwch yn gallu dychwelyd unrhyw lyfrau sydd gennych ar fenthyg pan fyddwch yn casglu eich llyfrau newydd.
• Dim ond un person ar y tro gaiff ddod i mewn i’r llyfrgell. Os bydd mwy nag un person yn cyrraedd ar yr un pryd, gofynnwn i chi aros y tu allan i’r adeilad, gan gadw pellter cymdeithasol.

Rydym yn rhag-weld y bydd y gwasanaeth clicio a chasglu yn parhau am o leiaf tri mis, a byddwn yn asesu’r sefyllfa yn rheolaidd.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn codi ffioedd na dirwyon, felly bydd unrhyw eitem sydd â thâl, er enghraifft DVD, llyfr llafar neu CD, ar gael am ddim. Rydym dal eisiau cael ein llyfrau yn ôl, ond ni fydd dirwyon am eitemau sy’n cael eu dychwelyd yn hwyr.

Rydym yn anelu at ailddechrau’r gwasanaeth llyfrgell teithiol ar 22 Mehefin hefyd, gan ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth i’n cwsmeriaid sy’n gaeth i’w cartrefi yn unig.

Felly, cofiwch:
• Peidiwch â dod i’r llyfrgell os nad ydych wedi bwcio slot.
• Os ydych yn methu eich slot, cysylltwch â ni i drefnu un arall.
• Cadwch bellter cymdeithasol, a pheidiwch â gadael y tŷ os oes gennych unrhyw symptomau o’r coronafeirws neu os ydych yn cysgodi.
• Byddwn yn darparu bag ar eich cyfer, a dylech ddefnyddio’r bag hwn ar gyfer eich ymweliadau â’r llyfrgell yn unig.
• Gallwch ailddefnyddio’r bag pan fyddwch yn casglu rhagor o lyfrau.

Cysylltwch â ni
Gallwch ddechrau archebu llyfrau ar-lein yn syth. Neu, gallwch anfon neges e-bost at llyfrgell@ceredigion.gov.uk neu ffonio eich llyfrgell leol o 22 Mehefin 2020 ymlaen. Mae rhif ffôn eich llyfrgell leol, ynghyd â’r catalog ar-lein, ar gael ar ein gwefan.

Cwestiynau Cyffredin

Dyma rywfaint o Gwestiynau Cyffredin am y gwasanaeth.

15/06/2020