Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu a gyda'r gaeaf yn agosáu, mae gwahoddiad i grwpiau a lleoliadau ddatblygu Man Croeso Cynnes.

Cadw’n Gynnes, Cadwch i siarad, Cadwch i Gymdeithasu

Mae Cyngor Sir Ceredigion a CAVO yn bwriadu gwneud eu gorau i helpu trigolion yn ystod y cyfnod anodd hwn. I wneud hyn, maent yn gofyn am help a chefnogaeth eu partneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob cwr o'r sir i gydweithio a helpu unigolion a theuluoedd sy'n fregus oherwydd yr argyfwng costau byw.

Maen’t yn awyddus i ddarparu rhwydwaith o fannau cynnes i helpu unrhyw un sy'n cael trafferth gyda chostau byw dros y gaeaf. Eu bwriad yw gweithio gydag unrhyw grŵp cymunedol neu sefydliad fyddai'n gallu cynnig mannau cynnes o fewn y gymuned.

Y Cynghorydd Catrin M.S. Davies yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Cydraddoldeb a Cadeirydd is-grŵp Tlodi y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedodd: “Mae modd i grwpiau cymunedol a sefydliadau o fewn ein cymdeithas wneud gwahaniaeth mawr drwy helpu trigolion yn ystod yr argyfwng hwn. Os ydych chi yn aelod o unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol, ac yn meddwl y gallech chi fod yn rhan o’r ymgyrch i gynorthwyo y bregus o fewn ein cymunedau drwy ddarparu lle cynnes dros y gaeaf, rydyn yn awyddus i glywed gennych.”

Mae modd i grwpiau neu sefydliadau sy'n fodlon cynnig lle cynnes dros y gaeaf gyflwyno cais i fyny at £1,000 i cefnogi eu gweithgareddau. 

Os nad oes angen cyllid ar y grŵp, ond eu bod yn barod i fod yn rhan o’r gwaith hanfodol hwn, maen’t dal yn awyddus i glywed gennych. Mae cyfle i hysbysebu’r Man Croeso Cynnes i drigolion, cynghorwyr, meddygon teulu a gweithwyr rheng flaen yng Ngheredigion drwy’r Cyngor a CAVO. Mi allai hefyd fod yn ffordd o ddenu mwy o wirfoddolwyr.

Gwnewch gais am gyllid trwy gwblhau’r ffurflen yma.

Rhowch wybodaeth am eich Man Croeso Cynnes ar y map drwy gwblhau’r ffurflen yma.

Cofrestrwch am sesiwn ar-lein am ragor o wybodaeth ar Mannau Croeso Cynnes ar 25 Hydref am 10.30yb yma.

I gael copi caled o’r ffurflen gais, cysylltwch â CAVO ar 01570 423 232 neu gen@cavo.org.uk. I roi gwybodaeth am eich Man Croeso Cynnes dros y ffôn, cysylltwch â Carys ar 07815 993654.

17/10/2022