Gwahoddir tendrau ar gyfer dylunio ac adeiladu canolfan iechyd, gofal cymdeithasol a thai newydd integredig yn Nhregaron, Cylch Caron.

Hysbysebwyd y cyfle tendro yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd, a chyhoeddwyd yr Holiadur Cyn-Gymhwyso (PQQ) ar 12 Chwefror 2018. Rhaid gwneud cyflwyniadau PQQ wedi'u cwblhau ar-lein trwy etenderwales erbyn 12yp dydd Llun, 15 Mawrth 2018.

Yn dilyn ymarfer blaenorol aflwyddiannus, pleidleisiodd Bwrdd Prosiect Cylch Caron i archwilio opsiynau tendro newydd ar gyfer dylunio ac adeiladu'r cyfleuster. Yn dilyn hynny, datblygwyd y tendr hwn ar gyfer datrysiad o ddylunio ac adeiladu i ddarparu gwerth gorau am arian a chyfleusterau iechyd a gofal ychwanegol addas at y diben, ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, a Chadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron: “Ar ôl archwilio ffyrdd i symud y prosiect hwn ymlaen yn llwyddiannus, mae hon yn garreg filltir bwysig rwy’n hapus iawn i weld. Cytunodd y Bwrdd Prosiect i ail-gaffael y cynllun ar sail Dylunio ac Adeiladu a gobeithio y bydd yn bosibilrwydd deniadol i gwmnïau adeiladu.”

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Tai Canolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a gwasanaethau nyrsio cymunedol, yn ogystal â fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

16/02/2018