Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o gymorth busnes yn gysylltiedig â chyfyngiadau cyfnod y Nadolig.

Mae gwybodaeth am y grantiau hyn ar gael yma: Cronfa Cadernid Economaidd 

Bydd busnesau Lletygarwch, Manwerthu Dianghenraid, Twristiaeth, Hamdden a busnesau'r Gadwyn Gyflenwi yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol.

Mae’r busnesau Lletygarwch a Manwerthu Dianghenraid yng Ngheredigion, a dderbyniodd grant o’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud o’r Cyngor yn dechrau derbyn taliadau uniongyrchol mewn i’w cyfrif banc. Ni fydd angen i’r busnesau hyn ailymgeisio ac ni fydd angen iddynt wneud dim byd pellach.

Rydym yn falch i gyhoeddi hyd yma yn Rhagfyr bod £1.8m o’r taliadau uniongyrchol hyn wedi cael eu gwneud i 534 o fusnesau yn y sector lletygarwch yng Ngheredigion. Bydd yna daliadau uniongyrchol ychwanegol yn cael eu gwneud i fusnesau yn y sector yma ynghyd â busnesau manwerthu dianghenraid, twristiaeth, hamdden a busnesau’r gadwyn gyflenwi yng Ngheredigion. Bydd y taliadau yma yn dechrau cyrraedd y busnesau ym mis Ionawr.

Bydd angen i bob busnes cymwys arall yn y sectorau Lletygarwch, Manwerthu Dianghenraid, Twristiaeth a Hamdden, gan gynnwys busnesau'r Gadwyn Gyflenwi (sy’n gysylltiedig â busnesau Lletygarwch a Manwerthu Dianghenraid) yng Ngheredigion na ymgeisiodd am Grant y Cyfnod Atal Byr wneud cais a llenwi ffurflen syml ar-lein. Mi fydd y broses ymgeisio yma yn agor yn gynnar ym mis Ionawr ac mae yna wybodaeth bellach ar y meini prawf o’r cynllun a chanllawiau ar gyfer y ffurflen gais ar gael ar ein gwefan: Y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud 

23/12/2020