Mae rhestr cyflawn o grantiau a chymorth ar gael mewn un lle i unigolion sydd mewn angen yn ystod pandemig y coronafeirws.

Bwriad Cyngor Sir Ceredigion yw dod a grantiau a chymorth mewn un lle i fod yn hwylus i ddod o hyd iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Efallai bod y coronafeirws wedi effeithio arno chi, p'un ai trwy’r haint, hunan-ynysu neu efallai bod eich cyflogaeth wedi cael ei effeithio.

Ar dudalen gwe Coronaferiws y Cyngor, mae adran budd-daliadau. Dyma lle y medrwch ddod o hyd i ystod o gymorth sydd ar gael o gredyd cynhwysol i fudd-daliadau tai.

Mae gan y Cyngor hefyd restr o grantiau a chymorth lleol a chenedlaethol sydd ar gael i unigolion. Mae'r rhestr yn cynnwys gwybodaeth am grantiau megis y Gronfa Cymorth Dewisol sy'n cefnogi costau hanfodol mewn argyfwng, i grwpiau cymorth lleol sy'n cyflenwi dillad, clytiau a thyweli i rieni bregus gyda babanod newydd.

I weld y rhestr lawn sy’n cael ei diweddaru’n aml, ewch i'r adran budd-daliadau ar wefan y Cyngor yma http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/budd-daliadau/

16/06/2020