Caiff rhaglen y Cyngor parthed gwaith adnewyddu ac ailwynebu ffyrdd ei gyflymu ar ôl derbyn bron £1.2m o arian grant o Lywodraeth Cymru. Ar 17 Ebrill 2018, cytunodd y Cabinet y bydd yr arian grant yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adnewyddu ffyrdd yng Ngheredigion yn ôl amodau’r grant.

Mae eisoes gan y Cyngor raglen sy'n nodi gwaith adnewyddu ac ailwynebu ffyrdd yn ôl trefn blaenoriaeth, sy'n ymestyn hyd at 2021/22 a thu hwnt. Bydd y taliad grant o £1,191,165 yn galluogi’r Cyngor i wneud mwy o welliannau yng nghynt na’r disgwyl cychwynnol.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, “Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw dros 2,265km o ffyrdd yng Ngheredigion. Rydym wedi bod yn lleihau’r gyfran o ffyrdd a ystyrir i fod mewn cyflwr gwael dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae’r arian grant yn ein galluogi i edrych eto ar y rhaglen a gwneud rhai gwelliannau yng nghynt.”

Mae’r taliad grant wedi ei wobrwyo i’r Cyngor ar yr amod bod y grant gael ei wario ar wariant ychwanegol ar adnewyddu priffyrdd lleol a bod adroddiad lefel uwch yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth 2019, yn disgrifio sut gwariwyd y grant ar adnewyddu'r priffyrdd lleol. Bydd rhaid hefyd darparu adroddiad cryno ynghylch Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor erbyn 30 Mehefin 2019 ac yn flynyddol wedi hynny.

Yn gyfredol, ystyrir bod 11.7% o ffyrdd Ceredigion mewn cyflwr gwael; mae’r ffigwr yma wedi bod yn gwella yn flynyddol o ffigwr o 15.6% yn 2013-2014.

17/04/2018