Mae tri pherchennog busnes yng nghanol tref Aberystwyth wedi cael rhybudd y gallai eu busnesau wynebu gorfod cau os na fyddant yn rhoi mesurau rhesymol ar waith i ddarparu neu sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n gweithio ar eu safleoedd.

Mae Hysbysiadau Gwella Mangre wedi cael eu cyflwyno i'r sawl sy’n gyfrifol am G-One ar Rodfa’r Gogledd a Penguin Pizza a Hollywood Pizza ar Heol y Wig, Aberystwyth. Mae’r hysbysiadau gwella yn ei gwneud yn ofynnol i'r busnesau ‘ddarparu neu sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bob un sy’n gweithio yn y mangreoedd’ ac yn rhybuddio y gallai peidio â chydymffurfio â’r hysbysiadau arwain at gyflwyno hysbysiad cau mangre. Cyflwynwyd yr hysbysiadau i'r busnesau yn dilyn arolygiadau wedi’u cydlynu dros y penwythnos gan Heddlu Dyfed Powys a Thîm Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r camau gweithredu yn dilyn datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan y Cyngor yr wythnos diwethaf yn rhybuddio safleoedd am yr angen i sicrhau bod staff yn cydymffurfio â’r gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb, ynghyd â chamau gorfodi tebyg ar ddau safle bwyd yn Aberteifi ar 18 Tachwedd 2020.

Cyhoeddwyd yr hysbysiadau gwella mangre yn unol â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 dros y penwythnos. Gellir dod o hyd i'r hysbysiadau ar wefan y Cyngor o dan Hysbysiadau Gwella a Chau.

Dylai busnesau sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gofynion sy’n rhan o’r Rheoliadau i sicrhau bod unigolion yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau cyhoeddus dan do, yn ogystal â’r gofyniad i safleoedd rheoledig gymryd pob mesur rhesymol i atal y coronafeirws rhag lledaenu, a hynny trwy ddarparu neu sicrhau bod gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio. Er bod amddiffynnydd wyneb (face shield) yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad ar gyfer y defnyddiwr rhag trosglwyddo’r coronafeirws, nid ydynt yn cael eu hystyried fel ‘gorchuddion wyneb’, gan eu bod yn amddiffyn yn unig yn hytrach na gorchuddio’r geg a’r trwyn.

Bydd Tîm Diogelu’r Cyhoedd yn parhau i gynnal arolygiadau dirybudd ar safleoedd ac efallai y bydd y busnesau hynny nad ydynt yn cydymffurfio yn cael hysbysiadau gwella mangre neu hysbysiadau cau mangre.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor trwy ddilyn y ddolen hon: Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

30/11/2020