Gofynnir barn ar welliannau mynediad arfaethedig i Fryngaer Pendinas ym Mhenparcau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn amlinellu’r prosiect i wella mynediad i’r fryngaer sydd yn heneb gofrestredig a gwarchodfa natur lleol. Yn ogystal, bwriedir cryfhau cysylltiadau gyda llwybrau beicio’r Ystwyth/Rheidol, Llwybr Arfordir Ceredigion a Cymru ynghyd a chyfleusterau ac atyniadau lleol eraill. Wrth wella lled ac arwyneb y llwybrau, mi fydd hyn o fudd i drawstoriad eang o bobl lleol ac ymwelwyr ac yn help i leihau’r rhwystrau sydd yn atal mynediad i gefn gwlad.

Dywedodd Eifion Jones, Swyddog Hawliau Tramwy Cyhoeddus, “Mae ariannu’r gwaith yn ddibynnol ar lwyddiant cais am gyllid allanol ac rydym yn croesawu adborth a sylwadau ar yr argymhelliad o flaen llaw cyn cyflwyno’r cais. Os yn llwyddiannus, mi fydd y gwaith yn dechrau yn yr Hydref 2018 ac wedi gorffen erbyn Hydref 2019.”

I weld y gwelliannau mynediad arfaethedig, ewch i’r dudalen Ymgynghoriadau ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk. Bydd angen danfon unrhyw adborth neu sylwad i Eifion.Jones@ceredigion.gov.uk erbyn 06 Gorffennaf 2018. Am ragor o fanylion neu i gael y wybodaeth mewn fformat wahanol, medrir cysylltu â’r Cyngor ar 01545 570881.

 

21/06/2018