Gofynnir barn trigolion Ceredigion, busnesau, deiliaid trwyddedau a’u cynhyrchwyr a’r adolygiad Cyngor Sir Ceredigion ar ei bolisi Hapchwarae cyfredol. Mae’r polisi yn cynnwys betio, hapchwarae, casinos, loteri a bingo.

Mabwysiadwyd y polisi hapchwarae presennol gan y Cyngor ym mis Ionawr 2016 a rhaid ei adolygu bob tair blynedd. Amcanion allweddol y polisi cyfredol yw: atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell trosedd ac anrhefn; galluogi i hapchwarae cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored ac i amddiffyn plant a phobl eraill sy’n agored i niwed rhag hapchwarae.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i drigolion a busnesau i fynegi eu barn ar y polisi Hapchwarae. Rydym yn annog adborth adeiladol fel y gellir gwneud newidiadau lle bo hynny'n briodol. Mae Ceredigion yn ymfalchïo eu hunan fel rhwydwaith o gymunedau sy’n gallu cyfathrebu ac ymuno a’i gilydd i daclo materion. Hoffwn amlygu dylech gysylltu â’r Cyngor os oes problemau sy'n ymwneud â gamblo yn eich ardal chi; os ydych chi'n teimlo bod mynediad at hapchwarae gan bobl fregus yn eich ardal chi yn broblem neu os ydych o'r farn bod mynediad at hapchwarae gan blant, neu bobl ifanc yn eich ardal chi yn broblem.”

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad yn cael ei gwblhau ac yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ac yna gan y Cyngor llawn.

Mae gwybodaeth am y polisi Hapchwarae ar gael ar wefan y Cyngor ar https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau. Gellir anfon ymatebion i’r ymgynghoriad i trwyddedu@ceredigion.gov.uk, gyda theitl y pwnc ‘Ymgynghoriad ar Bolisi Gamblo’. Fel arall , gellir dychwelyd y copïau yma trwy’r post i David Lloyd Roberts, Rheolwr y Gwasanaethau Defnyddwyr, Polisi a Pherfformiad. Neuadd Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 26 Hydref 2018.

Fel arall, mae copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael yn swyddfeydd y Cyngor a llyfrgelloedd ledled Ceredigion. Mae ffurfiau eraill o’r ymgynghoriad ar gael ar gais.

Gellir anfon cwestiynnau am yr ymgynghoriad yma i trwyddedu@ceredigion.gov.uk neu trwy alw Canolfan Gyswllt Clic Ceredigion ar 01545 570 881.

10/09/2018