Mae angen cael barn trigolion Ceredigion er mwyn diwygio’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-24. Mae gwasanaethau cyhoeddus yng nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i ofyn i breswylwyr roi eu barn. Mae'r arolwg ar gael ar wefan y cyngor a bydd yn para tan 14 Mehefin 2019.

Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd sefydliadau cyhoeddus yn sicrhau bod eu gweithredoedd yn deg i bawb.

Mae’r arolwg yn gofyn barn ar sut mae pobl o wahanol gefndiroedd yn profi chwe phrif faes bywyd canlynol: -
• Addysg
• Gwaith
• Safonau Byw
• Iechyd
• Cyfiawnder a Diogelwch Personol
• Cyfranogiad

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion Eiriolwr Cydraddoldeb y cyngor. Dywedodd, “Mae’r cyngor yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yn y sir yn cael eu trin gyda'r un parch a thegwch ac nad yw eu hamgylchiadau unigol yn eu rhwystro rhag cael y gwasanaethau y mae angen iddynt eu cael. Peidiwch golli’r cyfle yma i rannu eich barn chi gyda ni, i ddylanwadu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020-24.”

Mae nifer o sefydliadau yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y Cynllun Cydraddoldeb. Maent yn cynnwys cynghorau sir Caerfyrddin, Penfro a Phowys. Mae Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro hefyd yn gweithio ar y Cynllun Cydraddoldeb.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn ogystal â’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor.

I ymateb i’r arolwg, ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/arolwg-cynllun-cydraddoldeb-strategol-2020-2024/

I gael fformat arall o’r arolwg, cysylltwch â Michael Smith, Swyddog Cydraddoldeb ac Ymgysylltu trwy bost: Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA, neu ffoniwch 01545 574101 neu e-bostio Michael.Smith2@ceredigion.gov.uk.

 

24/05/2019