Ar ddydd Mawrth 26 o Fawrth, fe wnaeth Llysgenhadon Cymunedol Aberaeron drefnu a chynnal gweithgaredd i lanhau traeth Aberaeron yn ystod eu awr ginio. Tra bod y pobl ifanc yn glanhau, cafodd nhw cyfle i ddysgu am edrych ar ôl eu hamgylchedd o’i gwmpas nhw.

Disgyblion Ysgol Gyfun Aberaeron ac aelodau o Glwb Ieuenctid Aberaeron yw Llysgenhadon Cymunedol Aberaeron. Mae’r grŵp yn rhan o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion a caiff ei arwain gan wirfoddolwyr ifanc a bobl ifanc lleol.

Dywedodd Rebeca Davies, Gweithiwr Ieuenctid, seiliedig yn Ysgol Gyfun Aberaeron, “Gwnaeth y llysgenhadon waith gwych yn trefnu a chynnal eu prosiect cymunedol cyntaf, a oedd wedi'i gynllunio'n a’i weithredu’n effeithiol. Mae'n wych gweld bod ein pobl ifanc mor awyddus i gymryd rhan a rhoi eu hamser er budd eu cymunedau lleol. Da iawn i Lysgenhadon Cymunedol Aberaeron! ”

Erbyn hyn mae gan y grŵp, a sefydlwyd yn ddiweddar, 20 aelod rhwng 11-18 oed, a'i nod yw trefnu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau sydd o fudd i'r gymuned o gwmpas Aberaeron.

Dywedodd Thomas Evans, Prif Fachgen, Ysgol Gyfun Aberaeron a Gwirfoddolwr Ifanc gyda Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Ceredigion, “Cafwyd amser gwch yn cynnal ein prosiect cymuned cyntaf sef casglu sbwriel ar ein traeth lleol. Roedd yn gyfle gwych i roi rywbeth nôl i’n cymuned, a dyna prif fwriad y grŵp. Mae'r grŵp yn edrych ymlaen at ein prosiectau cymunedol nesaf!”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w dudalen Facebook, Twitter neu Instagram ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

02/04/2019