Bydd Pwerdy Iaith Aberaeron yn dathlu’r Nadolig gyda gig arbennig yng nghwmni Patrobas ac Eleri Llwyd ar nos Wener, 14 Rhagfyr.

Band ifanc talentog iawn o Ben Llŷn yw Patrobas sydd yn chwarae cerddoriaeth boblogaidd gyda thinc gwerinol. Mae’r band wedi serennu ar lwyfannau mawrion Cymru gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Tafwyl a Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Er eu bod wedi chwarae ambell i gig yng Ngheredigion eleni, dyma fydd eu gig cyntaf yn Nyffryn Aeron.

Eleri Llwyd fydd yn agor y gig Nadoligaidd. Mae Eleri yn un o leisiau mwyaf blaenllaw a chofiadwy Cymru’r 70au. Cipiodd deitl Cân i Gymru 1971 gyda’i pherfformiad o gân fytholwyrdd Dewi Pws, ‘Nwy yn y Nen’. Yn 1977, rhyddhaodd Eleri ei halbwm cyntaf sef ‘Am Heddiw Mae ‘Nghân’. Mae’r albwm yma wedi cael ei ail-rhyddhau gan Sain yn ddiweddar fel y cyntaf yn eu cyfres finyl newydd sef ‘Sain Finyl’. Bydd yr ail gyhoeddiad yma yn cynnwys traciau ychwanegol a fydd yn cynnwys ei dehongliad anthemaidd o’r gân ‘O Gymru’.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, “Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Pwerdy Iaith Aberaeron wedi bod yn brysur yn cydweithio gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion i drefnu nifer o ddigwyddiadau i hybu diwylliant Cymraeg yn nhref Aberaeron. Mae’n codi’r galon i weld y digwyddiadau yma yn dod a’r iaith yn fyw mewn cân a hiwmor.”

Mae’r nosweithiau sydd wedi eu trefnu yn y gorffennol gan Bwerdy Iaith Aberaeron yn cynnwys Huw Chiswell, Danielle Lewis, Gwilym Bowen Rhys, Cleif Harpwood a Gildas y ogystal â Noson Lawen wedi ei threfnu ar y cyd gyda Merched y Wawr Cylch Aeron.

Bydd y drysau yn agor am 7.00yh nos Wener, 14 Rhagfyr yn Neuadd Goffa Aberaeron. Mae modd prynu tocyn oddi wrth aelodau’r Pwerdy neu trwy swyddfa Cered yng Nghanolfan Addysg Felinfach drwy ffonio 01545 572 350. Mae tocynnau yn £8 i oedolion ac yn £2 i blant.

15/11/2018