Mae galwadau newydd yn cael eu gwneud i rieni sy’n gweithio i gofrestru am y Cynnig Gofal Plant yng Ngheredigion. Mae’r galwadau yn cael eu gwneud cyn i’r grŵp diweddaraf o blant teirblwydd oed ddod yn gymwys am y cynllun ar ddechrau’r tymor ysgol newydd yn Ionawr 2019.

Mae dros 200 o deuluoedd eisoes wedi cofrestru am y cynnig o ofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant tair a phedair blwydd oed. Mae’r teuluoedd yma yn gwneud arbedion mawr trwy dderbyn hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant wedi’i ariannu am hyd at 48 awr y flwyddyn.

Gall riant fod yn gymwys am y cynnig o ddechrau’r tymor ysgol ar ôl trydydd ben-blwydd eu plentyn. Mae hyn yn golygu y gall rieni cymwys o blant sydd yn cael eu pen-blwydd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2018 geisio am y Cynnig. Os yw eu cais yn llwyddiannus, byddent yn derbyn gofal plant wedi’i ariannu o Ionawr 2019.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Dylai unrhyw un yng Ngheredigion sydd â phlentyn sydd wedi, neu yn mynd i droi yn dair rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2018 weld os ydynt yn gymwys am y Cynnig Gofal Plant. Hefyd, os ydych yn gwybod am riant sydd yn y sefyllfa hynny, cofiwch ddweud wrthynt. Fe all wneud gwahaniaeth mawr mewn costau gofal plant.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli’r cynllun yn y sir, a bydd hefyd yn rheoli’r cynllun mewn siroedd cyfagos wrth i’r cynllun ledu yn ystod 2019. Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r Cynnig Gofal Plant.

Yn gyffredinol, mae rhieni a gwarchodwyr sy’n gymwys am y cynllun yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos. Ond, mae gweithwyr tymhorol a phobl hunangyflogedig hefyd yn gallu bod yn gymwys. Mae rhieni a gwarchodwyr sydd eisiau gweld os ydynt yn gymwys yn gallu mynd i wefan y Cyngor ar: www.ceredigion.gov.uk/CynnigGofalPlant.

01/11/2018