Bydd gwasanaeth casglu gwastraff newydd Ceredigion yn dechrau’n fuan. Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys gwasanaeth newydd yn casglu cewynnau a gwastraff hylendid arall.

Bydd y gwasanaeth newydd yn darparu cyfleoedd newydd i ailgylchu yn ogystal â chasglu gwastraff ‘bagiau du’ bob tair wythnos. Mewn ymateb i bryder trigolion am gadw cewynnau a chynnyrch anymataliaeth, bydd y cyngor yn parhau i gasglu'r gwastraff hwn bob pythefnos. Gan fydd y casgliad yma ar wahân i gasgliadau gwastraff eraill, mae angen i drigolion Ceredigion wneud cais i dderbyn y gwasanaeth er mwyn sicrhau bod casgliadau yn cael eu gwneud yn effeithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff newydd ar fin dechrau. Y ffordd newydd hyn o gasglu cewynnau a gwastraff anymataliaeth bydd cam cyntaf y gwasanaeth newydd. Bydd angen i drigolion sy’n defnyddio’r cynhyrchion hyn wneud cais am gasgliad ac rydym yn eu hannog i wneud hyn nawr fel y gallwn gynllunio a phenderfynu ar fanylion terfynol y gwasanaeth.”

Mae manylion ynglŷn â’r deunyddiau mae modd eu casglu, a phwy sy’n gymwys i dderbyn y gwasanaeth ar gael ar wefan y cyngor.

Os ydych chi’n credu bod angen casgliad gwastraff hylendid arnoch chi, cwblhewch y ffurflen gais sydd ar-lein ar www.ceredigion.gov.uk/gwasanaethgwastraffnewydd neu am gopi papur, cysylltwch â ni ar 01545 570 881.

21/01/2019