O ofalwyr maeth sydd wedi dangos ymroddiad dros flynyddoedd lawer, i’r rheini sydd newydd ddechrau ar eu taith faethu i helpu i roi dyfodol gwell i blant, mae Maethu Cymru am ddathlu’r ymrwymiad y mae gofalwyr maeth wedi’i wneud i fywydau plant yng Ngheredigion yn ystod 'Pythefnos Gofal Maeth' eleni rhwng 9 a 22 Mai.

Thema eleni yw ‘maethu cymunedau’ a bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth.

Ers dros ddwy flynedd, mae’r pandemig wedi effeithio ar deuluoedd ledled y wlad. Gan nad oedd pobl yn gallu gweld eu hanwyliaid a gan fod cymorth yn anodd cael gafael arno, mae cymunedau ledled Cymru wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi ei gilydd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir ar gyfer teuluoedd sy’n maethu.

Mae llawer wedi defnyddio’r cyfnod anodd hwn fel cyfle i greu ‘normal newydd’ mwy cadarnhaol - nid yn unig yn eu bywydau eu hunain ond ym mywydau plant lleol hefyd. Yn ôl Maethu Cymru, dechreuodd dros 350 o deuluoedd yng Nghymru faethu gyda’u hawdurdod lleol yn ystod pandemig COVID-19.

Donna Pritchard yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Porth Ceredigion. Dywedodd: “Mae Maethu wedi gorfod addasu i’r amgylchiadau rhyfedd y cawsom ein hunain ynddynt, ac mae ein gofalwyr maeth wedi camu i’r adwy i ddarparu gofal a chymorth rhagorol i blant a theuluoedd yr oedd eu hangen arnynt, ac rydym am ddweud diolch yn fawr a mynegi ein gwerthfawrogiad o bopeth y maent wedi’i wneud.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn un o’r 22 tîm awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cydweithio fel Maethu Cymru, rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu nid-er-elw.

Mae Maethu Cymru am annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth yng Ngheredigion fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teulu ac aros yn eu hysgol. Gall hyn helpu plant a phobl ifanc i gadw eu hymdeimlad o hunaniaeth yn ystod cyfnod sydd fel arall yn un cythryblus.

Alastair Cope yw Pennaeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol. Dywedodd: “Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli mai eich awdurdod lleol chi, eich cyngor lleol, sy’n gofalu am blant pan fydd eu teulu’n cael anawsterau neu pan fydd plant yn byw mewn sefyllfaoedd camdriniol ac esgeulus, a’ch awdurdod lleol chi sy’n dod o hyd i le diogel iddynt ac sy’n gyfrifol amdanynt.

“Drwy faethu’n lleol, rydych chi’n helpu plant i aros yn eu cymuned, gyda’r amgylchedd, yr acen, yr ysgol, yr iaith, y ffrindiau a’r gweithgareddau y maen nhw’n gyfarwydd â nhw. Mae’n eu cadw’n gysylltiedig, yn adeiladu sefydlogrwydd ac yn meithrin hyder. Byddem yn annog pobl nid yn unig i faethu, ond i faethu gyda’u hawdurdod lleol, sy’n rhan o Maethu Cymru, sefydliad nid-er-elw sy’n gyfrifol am y plant yn ein gofal.”

I gael gwybod sut y gallwch faethu yng Ngheredigion, anfonwch e-bost at fostering@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 574000. I gael rhagor o wybodaeth am Maethu Cymru ewch i: fosterwales.gov.uk.

09/05/2022