Mae rhieni sy’n gweithio, o blant tair a phedair oed yn cael eu hannog i ddefnyddio ffurflen gofrestru ar-lein ar gyfer y Cynnig Gofal Plant sydd wedi ei ariannu o flaen y lansiad yng Ngheredigion ym mis Medi.

Mae’r cynnig o ofal plant sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gael i rieni a gwarchodwyr cymwys o blant tair a phedair oed sy’n gweithio am hyd at 30 awr yr wythnos a bydd ar gael am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn gyfuniad o ofal plant sydd wedi ariannu ac addysg blynyddoedd cynnar.

Yn gyffredinol, mae rhieni a gwarchodwyr sy’n gymwys am y cynllun yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ond mae trefniadau wedi eu gwneud ar gyfer gweithwyr tymhorol ac i’r rheini sydd yn hunan-gyflogedig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Dw i’n annog rhieni a gwarchodwyr yng Ngheredigion i fynd i wefan y Cyngor i weld os ydynt yn gymwys am y Cynnig Gofal Plant, ac yna wrth gwrs i gofrestru! Mae’r Cynnig yn lansio yng Ngheredigion ar 1 Medi, ac mae’r Cyngor eisiau gweld cyn fwyaf o drigolion a phosib yn manteisio ar y cyfle gwerthfawr yma.

Gall rhieni a gwarchodwyr sydd eisiau dysgu mwy am y Cynnig ac am gofrestru am ofal plant wedi ei ariannu mynd i wefan y Cyngor ar: www.ceredigion.gov.uk/CynnigGofalPlant

07/08/2018