A ydych chi'n berson anabl sy'n byw yng Ngheredigion, yn weithiwr cymorth, gofalwr neu gynrychiolydd sy'n gweithio gyda phobl anabl yn y sir? Os felly, dewch i ymuno â Fforwm Anabledd Ceredigion.

Mae'r Fforwm yn llwyfan, wedi’i gyd-weithredu gan Gyngor Sir Ceredigion a CAVO; Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu'r gymuned anabl yng Ngheredigion.

Dywedodd Chesca Ross, Rheolwr Ymgysylltu a Chydweithio i CAVO, “Gweledigaeth y Fforwm yw rhoi’r siawns i unigolion anabl a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl anabl i ddod at ei gilydd. Mae’r cyfarfodydd yma yn gyfle gwych i drigolion Ceredigion drafod materion sy'n peri pryder ac mae yna groeso cynnes i unrhyw un a dymuno mynychu.”

Mae aelodau’r Fforwm yn cael y cyfle i gwrdd â swyddogion priodol o’r sector statudol, i godi unrhyw faterion a nodwyd a cheisio eu datrys. Mae’r Fforwm hefyd yn grŵp gall y Cyngor ymgynghori ag, er mwyn trafod sut y gallai ei bolisïau a'i weithdrefnau effeithio ar bobl anabl.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gwaith y Fforwm wedi cael dylanwad cadarnhaol ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â hygyrchedd a chynhwysedd gan gynnwys: dylanwadu ar systemau clywedol diogelu ar fysiau gwasanaeth cyhoeddus, ceisiadau am Fathodynnau Glas, prosesau ynghylch ceisiadau cynllunio ynglŷn â mynediad anabledd a chodi ymwybyddiaeth o faterion o dan y fenter Caru Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Eiriolwr ar gyfer Cydraddoldeb, “Nôd Fforwm Anabledd Ceredigion yw gwella’r ddarpariaeth gwasanaethau i bawb. Gorau po fwyaf o bobl sy’n gallu mynychu’r cyfarfodydd er mwyn sicrhau y bydd amrediad eang o faterion yn cael eu codi ac yn cael sylw manwl. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymroi i ddarparu gwasanaethau cynhwysol i holl trigolion Ceredigion ac yn croesawu’r cyfle i drafod y materion a gaiff eu codi yn ystod cyfarfodydd y Fforwm. Yna, gallwn edrych ar sut i wella gwasanaethau o ran hygyrchedd a chynhwysedd.”

Mae cyfarfodydd agored yn cael eu cynnal yn chwarterol, ac maent yn cael eu cylchdroi o amgylch y sir er mwyn sicrhau cyfranogiad eang. Gall aelodau’r gymuned â diddordeb i fynychu’r cyfarfodydd agored cysylltu â’r trefnwyr y Fforwm o flaen llaw ar gyfer unrhyw gefnogaeth cyfathrebu neu ofynion hygyrchedd sydd angen, i sicrhau bod gwaith cynllunio a chyfarfodydd y Fforwm yn gynhwysol.

Bydd y Fforwm yn cwrdd ar y dyddiau a lleoliadau canlynol yn 2018/19 ar gyfer amrywiaeth o faterion ynglŷn â gwasanaethau yng Ngheredigion:

2018
• 13 Mehefin: Penmorfa, Aberaeron - Cwrdd â Gwasanaethau Statudol - Trawsnewid Gwasanaethau Iechyd yng Ngheredigion.
• 11 Gorffennaf: Maes Mwldan, Aberteifi - Digwyddiad Anffurfiol - Newidiadau Buddiant a’r effaith arnoch chi.
• 12 Medi: Penmorfa, Aberaeron - Cwrdd â Gwasanaethau Statudol -- Newidiadau Buddiant a’r effaith arnoch chi.
• 17 Hydref: Neuadd yr Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron - Digwyddiad Anffurfiol - Profiadau o Droseddau Casineb a Chyfeillio.
• 12 Rhagfyr: Penmorfa, Aberaeron - Cwrdd â Gwasanaethau Statudol - Profiadau o Droseddau Casineb a Chyfeillio.

2019
• 16 Ionawr: Canolfan Morlan, Aberystwyth - Digwyddiad Anffurfiol - Newid y ffordd rydym yn gofalu yng Ngheredigion.
• 20 Mawrth: Canolfan Rheidol, Aberystwyth - Cwrdd â Gwasanaethau Statudol - Newid y ffordd rydym yn gofalu yng Ngheredigion.

Dylid nodi nad yw cwynion ac anghydfodau unigol yn berthnasol i'w trafod yn y Fforwm. Mae sianeli diffiniedig o fewn y Cyngor i fynd ar drywydd materion unigol a’u datrys.

Cynhelir digwyddiadau rhwng 1-3yp gyda lluniaeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Carys Morgan ar 01545 570 881/ clic@ceredigion.gov.uk neu Chesca Ross o CAVO ar 01570 423232/ chesca.ross@cavo.org.uk.

24/05/2018