Nodwyd ar ddydd Llun 26 Mawrth ddechreuad Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2018. I gyd-fynd â hyn, trefnwyd gan Dîm Anghenion Addysgol Arbennig/Anghenion Dysgu Ychwanegol Ceredigion (AAA/ADY) i’r siaradwr a'r newyddiadurwr enwog, Dean Beadle, roi cyflwyniad i gynulleidfa o staff ysgolion, staff gwasanaethau dysgu ac asiantaethau partneriaeth ar ddydd Llun 26 Mawrth. Rhannodd Dean ei brofiadau personol doniol a rhoddodd mewnwelediad o ddysgu a byw gydag awtistiaeth er mwyn cynyddu ymhellach ymwybyddiaeth o awtistiaeth a'i oblygiadau addysgol.

Mae cyflwyniad Dean yn rhan o raglen datblygu broffesiynol ehangach o ymestyn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhellach o ran diwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth yn ysgolion Ceredigion. Mae hyn yn cynnwys darparu cwrs hyfforddiant penodol sy'n galluogi aelod o staff cymorth i ymgymryd â rôl 'Pencampwr Awtistiaeth' yn eu hysgol, yn ogystal â chynorthwyo ysgolion i weithio drwy'r prosiect cenedlaethol 'Dysgu gydag Awtistiaeth'.

Dyrannwyd arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru trwy eu Prosiect Arloesi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae hyn yn rhan o agenda Diwygio ADY Llywodraeth Cymru a fydd yn disodli'r Mesur AAA a'r Cod Ymarfer cyfredol o fis Medi 2020 ymlaen. Rôl Ceredigion oedd datblygu dulliau mwy arloesol o ddarparu gwasanaethau allgymorth er mwyn datblygu gallu ysgolion i ddiwallu anghenion disgyblion ag ADY ymhellach. Dewisodd tîm AAA/ADY Ceredigion ganolbwyntio ar gynyddu cynhwysedd ysgolion ymhellach i ddiwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth yn fwy effeithiol gan fod y grŵp penodol hwn o ddysgwyr sydd ar agor i niwed yn parhau i fod yn ffocws yng Ngheredigion yn ogystal ag yn genedlaethol. Cefnogwyd tîm o staff arbenigol ac un o elfennau'r prosiect oedd datblygu a threialu pecyn hyfforddi Hyrwyddwr Awtistiaeth.

Datblygwyd a chyflwynwyd y cwrs hyfforddiant gan gynrychiolwyr o ystod o wasanaethau arbenigol, gan gynnwys Seicoleg Addysg, therapi Iaith a Lleferydd, therapi Galwedigaethol yn ogystal ag athrawon ymgynghorol AAA/ADY ac athrawon arbenigol o ganolfannau adnoddau arbenigol yng Ngheredigion. Mae'r hyfforddiant bellach wedi'i gyflwyno i nifer o gynorthwywyr addysgu a oedd yn cynnwys pob un o'r saith ysgol uwchradd a 31 ysgolion cynradd.

Nod y pencampwyr Awtistiaeth yw cynyddu cynhwysedd ysgolion ymhellach i gynorthwyo disgyblion ag awtistiaeth a rhoi cyngor i athrawon yn ogystal â chwarae rhan allweddol wrth gefnogi eu hysgolion i weithio drwy'r rhaglen 'Dysgu gydag Awtistiaeth' a chyflawni'r Wobr Genedlaethol ar gyfer Ysgolion sydd yn Ymwybodol o Awtistiaeth a ddatblygwyd gan ASD Info Wales, y wefan genedlaethol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (ASA).

Cymerodd naw ysgol Ceredigion ran mewn peilot cychwynnol i ddefnyddio adnoddau Dysgu gydag Awtistiaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o ASD/Awtistiaeth ar draws holl aelodau cymuned yr ysgol. Mae rhai o'r ysgolion hyn bellach wedi llwyddo i ennill y Wobr Genedlaethol gydag eraill yn agos i'w cyflwyno. Gydag adnodd ychwanegol y Pencampwr Awtistiaeth, mae tîm AAA/ADY Ceredigion yn annog yr ysgolion hyn i weithio tuag at y wobr hon erbyn diwedd Gorffennaf 2018. Mae cyflwyniad Dean Beadle yn rhan o'r ffocws hwn ar ymestyn ymwybyddiaeth am awtistiaeth ymysg staff ysgolion a gwasanaethau dysgu Ceredigion ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod o’r Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae’r rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yn gam fawr tuag at godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth bellach o Awtistiaeth ac i sicrhau mae ysgolion Ceredigion wedi'i chyfarparu'n llawn i ddiwallu anghenion disgyblion ag awtistiaeth yn fwy effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi a darparu addysg gynhwysol i bob plentyn sy'n byw yng Ngheredigion."

Cysylltwch â Thîm Anghenion Addysgol Arbennig Ceredigion trwy e-bostiwch sen@ceredigion.gov.uk neu 01970633710.

29/03/2018