Ar 19 Mehefin 2018, cymeradwywyd ffioedd dros leoliadau yng nghartrefi gofal y sector annibynnol yng Ngheredigion am y cyfnod 2018 i 2019.

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i osod ffi o £558 yr wythnos ar gyfer gofal preswyl a £569 yr wythnos ar gyfer gofal nyrsio. Cytunwyd hefyd ar bremiwm o £37 ar gyfer gofal preswyl a nyrsio henoed bregus eu meddwl. Talir y ffioedd yma i gartrefi annibynnol gan y Cyngor i osod pobl hŷn sydd angen cefnogaeth mewn cartrefi gofal.

Mae’r Cyngor yn ddarostyngedig i ganllawiau Llywodraeth Cymru sy’n golygu bod angen i’r Cyngor gael dull i drafod costau a pherfformiad â darparwyr gofal annibynnol. Mae rhaid i’r gosodiad o ffioedd ystyried costau darparwyr cyfredol a’r dyfodol, yn ogystal â ffactorau sy’n effeithio ar gostau.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Oedolion, “Mae’n bwysig bod y Cyngor yn dod o hyd i gydbwysedd rhwng gosod ffioedd sy’n gost-effeithiol a chefnogi gofal o safon uchel, gan ystyried y pwysau cost sy’n effeithio ein darparwyr.”

Mae’r penderfyniad yn cefnogi ymdrechion y Cyngor i gyflawni’r amcan strategol o ddarparu gwasanaethau a fydd yn cyfrannu at amgylchedd iach, bywydau iachach a diogelu'r rhai hynny sy'n agored i niwed yn y sir.

28/06/2018