Mae astudiaeth ymchwil o'r enw Pweru'r Dyffryn a gyflwynir gan Weithgor Dyffryn Aeron cyf yn edrych ar ddichonoldeb pweru busnesau a chartrefi yn Nyffryn Aeron.

Mae'r astudiaeth yn edrych i greu corff cymunedol i ddatblygu ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol a fyddai'n ceisio creu ffynhonnell incwm ar gyfer pweru economi canol Ceredigion. Mae'r astudiaeth hefyd yn ystyried creu ffynhonnell incwm cynaliadwy i ddatblygu'r economi leol yn Nyffryn Aeron.

Caiff yr astudiaeth ddichonoldeb ei hariannu trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Ariennir hyn gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Datblygwyd y cysyniad o Bweru’r Dyffryn gan y Gweithgor Dyffryn Aeron cyf. Mae llawer o aelodau'r Gweithgor yn ffermwyr ifanc yn yr ardal. Nid yn unig ydyn nhw eisiau sicrhau ffordd o fyw ac ynni fforddiadwy, maent hefyd yn buddsoddi yn eu dyfodol.

Sefydlodd ffermwyr Dyffryn Aeron y cwmni cydweithredol cymunedol Gweithgor Dyffryn Aeron cyf mewn ymateb i gau ffatrïoedd llaeth yn y dyffryn. Helpodd y Gweithgor, gwmni lleol i ailagor safle un ffatri fel canolfan cyflogaeth leol.

Trwy hyn, canfuwyd bod costau ynni yn uchel yn yr ardal ac y gallai fygwth cynaliadwyedd hirdymor busnesau yn yr ardal.

Mae Euros Lewis yn Gyfarwyddwr Gweithgor Dyffryn Aeron cyf ac yn Rheolwr Prosiect Pweru’r Dyffryn. Dywedodd, “Mae ymateb yn greadigol yw'r ffordd ymlaen a dyna beth mae'r ffermwyr ifanc yma wedi'i wneud.”

Oddi yma datblygwyd cysyniad Pweru'r Dyffryn, a ddechreuodd gydag ymgynghoriadau lleol ar draws Dyffryn Aeron i gyd. Gofynnwyd i gymunedau lleol pa fath o ynni adnewyddadwy yr oeddent ac nad oeddent am ei weld yn cael ei ddatblygu yn yr ardal, a sut y byddent am i gyllid o unrhyw gynllun posibl cael ei wario. Pwrpas yr ymgynghoriadau oedd datblygu model a fydd yn diwallu anghenion a photensial y cymunedau lleol yn bennaf oll.

Derbyniodd y cynllun dichonoldeb gefnogaeth LEADER trwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion.

Y cam nesaf ar gyfer Gweithgor Dyffryn Aeron cyf yw cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr o'r ymgynghoriad lleol a'i ganfyddiadau ar gyfer datblygiadau posibl yn y dyfodol. Mae canfyddiadau cynnar yr ymgynghoriad yn cynnwys na fyddai croeso i dyrbinau gwynt ar raddfa fawr, tra bod cefnogaeth i ymchwil pellach i botensial dyfrffyrdd a phŵer solar ar gyfer cynhyrchu ynni lleol a chynaliadwy.

Bydd datblygu'r cynllun yn un hirdymor gyda heriau ar hyd y ffordd ond mae Euros Lewis yn credu er mwyn newid bywydau'r bobl leol ac i ddatblygu'r economi leol “mai'r egwyddor sylfaenol yw gweithredu drosom ein hunain a dyma beth rydym yn ei wneud.”

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi yn edrych am syniadau pellach i ymwneud ag archwilio cyfleoedd ynni adnewyddadwy. Os hoffech drafod eich syniadau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gymhwyster cymorth, ffoniwch dîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063 neu e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Mae’n galonogol iawn gweld cymdeithas wledig yng Ngheredigion yn meddwl i’r dyfodol yn uchelgeisiol. Mae Cynnal y Cardi yn eu cefnogi yn agos a dw i’n siŵr y byddent yn weld llwyddiant yn y dyfodol.”

Croesewir yr holl syniadau ar sail dreigl ac mae swyddogion y prosiect wrth law i'ch cynorthwyo. Y dyddiadau cau yn 2019 ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw 9 Medi ac 11 Tachwedd. Croesewir pob cyflwyniad yn Gymraeg neu yn Saesneg.

15/07/2019