Eleni, mae’r Ffair Wanwyn yn nodi pen-blwydd arbennig Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn 18 oed.

Fe wnaeth Marchnad Ffermwyr Aberystwyth gael ei lansio ym mis Mai 2000 ac mae’n parhau i fod yn llwyddiannus gyda 30 o stondinau yno ar ddydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd o bob mis. Gyda’r dathliad arbennig yn digwydd ym mis Mai, y Ffair Wanwyn yw’r cyfle euraidd i nodi’r achlysur.

Marchnad cynnyrch lleol yw’r Ffair Wanwyn, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gynnyrch at ddant pawb yn y teulu. Bydd stondinau amrywiol ar gael - o fara i gacennau, cig a llysiau, cawsiau a jam i anrhegion. Yn ogystal â’r masnachwyr rheolaidd y Farchnad Ffermwyr, mae gan y Ffair Wanwyn hyd yn oed mwy o amrywiaeth o stondinau i’w mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Cymunedol, “Mae cael marchnad dwywaith y mis yn Aberystwyth yn bwysig nid yn unig i’r busnesau a’r cynhyrchwyr hynny sy’n mynychu’n rheolaidd ym mhob tywydd, ond y gymuned a thwristiaeth hefyd. Mae’r Ffair Wanwyn yn binacl y flwyddyn ac yn argoeli i fod yn un arbennig iawn eleni. Gyda’r Farchnad yn dathlu 18 mlwydd oed, dewch i ddathlu’r garreg filltir a chefnogi’n lleol!”

Bydd y Ffair yn cael ei gynnal ar hyd Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth rhwng 10yb a 2yp ar ddydd Sadwrn, 19 Mai.

Cofiwch hefyd bod Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn cael ei gynnal ar hyd Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn cyntaf a trydydd bob mis rhwng 10yb a 2yp. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gen@foodcentrewales.org.uk neu 01559 362230.

 

04/05/2018