Bydd Amgueddfa Ceredigion yn cynnal Ffair Nadolig unigryw.

Bydd Amgueddfa Ceredigion yn dechrau cyfnod y Nadolig gyda diwrnod hudolus, ac maent yn gwahodd pawb i ymuno â nhw ddydd Sadwrn 1 Rhagfyr. Yn ogystal â chyfle i gwrdd â Siôn Corn, bydd y digwyddiad yn cynnwys grŵp o grefftwyr lleol yn arddangos eu cynnyrch, gweithdai Nadoligaidd traddodiadol, gemau a cherddoriaeth fyw a fydd yn dod â’r Theatr Edwardaidd hardd yn fyw.

Dywedodd Seirian De’Rome, trefnydd y digwyddiad a gwirfoddolwr yn yr Amgueddfa, “Dewch â’r teulu cyfan ynghyd i gwrdd â Siôn Corn a’i gorachod yn ein bwthyn clyd a rhoi eich llythyr iddo’n bersonol. Ar ôl hynny, porwch drwy stondinau crefftwyr lleol i chwilio am yr anrheg Nadolig perffaith, neu rhowch gynnig ar greu rhywbeth unigryw eich hun i fynd adref gyda chi.”

“Cymerwch seibiant yn ein caffi, ac ymlaciwch wrth i chi ymgolli yng nghaneuon a choralau’r Nadolig. Bydd hwn yn ddiwrnod â rhywbeth at ddant pawb. Os na allwch ddod ar 1 Rhagfyr, bydd yn cael ei gynnal unwaith eto ar 15 Rhagfyr.”

Mae rhaglen ddigwyddiadau Amgueddfa Ceredigion yn llawn yn arwain at yr ŵyl. Mae Sarah Morton, Swyddog Cynaliadwyedd Amgueddfa Ceredigion yn teimlo’n hynod gyffrous am yr amrywiaeth o adloniant fydd ar gael. “Bydd y dathliadau’n parhau drwy fis Rhagfyr gyda holl uchafbwyntiau traddodiadol cyfnod y Nadolig. Ymunwch â ni, Showtime Singers a Sgarmes am noson hamddenol ar 14 Rhagfyr. Dewch i ganu er mwyn ffarwelio â’r hen a chroesawu’r newydd yng nghwmni Rapscullion a chyfeillion ar Noswyl Heuldro’r Gaeaf, neu dewch i wylio ffilm Mary Poppins (1964) ar brynhawn 23 Rhagfyr. Peidiwch ag anghofio am y Cabarela Nadolig ar 23 Rhagfyr am 7yh. Gadewch y plant gartref a dewch i ymlacio gan y bydd hi’n noson llawn hwyl.”

Edrychwn ymlaen at eich croesawu un ac oll i’r digwyddiadau Nadoligaidd llawn hwyl.

Ewch i dudalen Facebook Amgueddfa Ceredigion Museum neu’r wefan www.ceredigionmuseum.wales i gael rhaglen lawn o’r digwyddiadau, a sicrhewch eich bod yn archebu ymlaen llaw cyn i’r holl leoedd lenwi!

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gosod stondin yn Ffair Grefft y Nadolig ar 1 a 15 Rhagfyr gysylltu â Seirian De’Rome ar seiriand@ceredigion.gov.uk.

12/11/2018