Yn ddiweddar, cafodd Canolfan Bwyd Cymru daith rithwir 'Ganolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu' wedi ei greu i alluogi pobl i weld y cyfleusterau sydd ar gael yno o bell.

Mae'r adeilad 880m2 yn cynnwys cyfleusterau gweithgynhyrchu helaeth sydd ar gael ar gyfer llogi masnachol. Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae llawer o weithgynhyrchwyr Bwyd a Diod yng Nghymru a thu hwnt wedi defnyddio'r cyfleusterau i ddatblygu a threialu cynhyrchion newydd.

Mae'r 7 maes prosesu unigol wedi'u gosod yn unol â'r safonau uchaf a gellir eu defnyddio i gynhyrchu ystod eang o gynhyrchion gan gynnwys llaeth, cig, melysion, llysiau a becws. Darperir lle storio ar gyfer nwyddau wedi'u oeri a'u rhewi hefyd. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn trwyddedu’n llawn ystafell torri cig sy'n caniatáu gwerthu cynhyrchion i siopau manwerthu yn ogystal â defnyddwyr.

Yn unigryw i Gymru, mae'r Ganolfan hefyd yn cynnwys pedair Uned Cynhyrchu Bwyd Modiwlaidd unigol sy'n darparu cyfleusterau gweithgynhyrchu i helpu busnesau gymryd y cam cyntaf tuag at gynyddu cynhyrchiant a datblygu eu busnesau. Gall busnesau bwyd arloesol logi'r cyfleusterau gradd bwyd uchel hyn hyd at 5 mlynedd, sy'n eu helpu i gynyddu cynhyrchu a thyfu eu busnesau heb orfod talu costau eiddo. Ers eu hadeiladu yn 2005, mae'r unedau wedi cynorthwyo nifer helaeth o fusnesau newydd i dyfu a ffynnu yn fusnesau prosesu bwyd llwyddiannus iawn, gan gyflenwi ledled Cymru, y DU a hyd yn oed allforio dramor.

Dywedodd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Ddatblygu Economaidd a Chymunedol, “Rydym yn ffodus iawn yng Ngheredigion i gael lle fel Canolfan Bwyd Cymru. Mae'r cyfleusterau technegol wedi'u cynllunio i ganiatáu i gynhyrchwyr bwyd gynhyrchu cynhyrchion ar raddfa ddiwydiannol fach. I'r rheini sy’n byw’n agos neu’n bell a hoffai weld y lle heb orfod teithio i Horeb, mae'r daith rithwir yn gyfle i weld beth mae'r Ganolfan yn ei gynnig.”

Medrwch fynd ar y daith, gan gynnwys taith o amgylch un o'r unedau deor, ar wefan Canolfan Bwyd Cymru http://www.foodcentrewales.org.uk/facilities/ ac hefyd trwy Google Maps Street View.

Mae Technolegwyr Bwyd Arbenigol wrth law i gynorthwyo'r defnydd o'r holl feysydd prosesu ac offer. Byddant yn helpu i raddio ryseitiau, hyfforddi i ddefnyddio'r offer a gosod amodau prosesu – oll yn angenrheidiol ar gyfer gweithgynhyrchu.

I gyd-fynd â Gŵyl Arloesi Cymru, bydd Canolfan Bwyd Cymru yn cynnal Diwrnod Agored ar 26 Mehefin. Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn neu ffoniwch 01559 362230.

Llun: Ciplun o Taith Rhithiwr Canolfan Arloesi a Gweithgynhyrchu Canolfan Bwyd Cymru.

10/05/2018