Ar 20 Ebrill 2018, etholwyd Esme Freeman fel Aelod Seneddol Ifanc (ASI) newydd Ceredigion, gan Gyngor Ieuenctid y Sir, i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DI yn 2018-2019.

Mae Esme Freeman yn ddisgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Aberaeron a chafodd ei hethol i gymryd drosodd oddi wrth ASI presennol y Sir, Wil Rees, cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a chyn Is-Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, sydd yn dod i ddiwedd ei gyfnod fel ASI.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dechrau'n Deg a'r Tîm o amgylch y Teulu, “Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu lleisiau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol. Mae Senedd Ieuenctid y DU yn gyfle i San Steffan glywed lleisiau pobl ifanc yn trafod materion y maent yn teimlo fwyaf cryf amdanynt. Rydym yn falch iawn o Esme fel cynrychiolydd ifanc newydd Ceredigion, ac rydym yn dymuno phob lwc iddi dros y flwyddyn nesaf yn y digwyddiadau paratoi, yn y ddadl fawr yn Nhŷ’r Cyffredin â’r broses ymgyrchu yn dilyn y ddadl.”

Bydd Esme yn cychwyn ei rôl newydd fel ASI o fewn y misoedd nesaf, a bydd yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau i’w pharatoi ar gyfer y ddadl fawr yn Llundain ym Mis Tachwedd 2018, lle bydd dros 300 o aelodau ifanc yn ymgasglu yn Senedd y Tŷ’r Cyffredin i gymryd rhan yn y drafodaeth fawr flynyddol, sy’n cael ei gadeirio gan y Gwir Anrhydeddus John Bercow AS.

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Pob blwyddyn, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gweithio mewn partneriaeth â Phlant yng Nghymru i gynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ifanc yng Ngheredigion i gael dweud eu dweud ar faterion sy’n eu heffeithio. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr i groesawu Esme fel ein ASI newydd ac yn edrych ymlaen i’w chefnogi i gael profiad gwerthfawr fel ASI Ceredigion. Rydym yn hyderus bod Esme yn berson delfrydol i’r rôl yma ac yn dymuno bob dymuniad da iddi ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hoffai’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd ymestyn ein diolchiadau i Wil am ei holl waith caled, brwdfrydedd a’i arbennigedd fel Aelod Seneddol Ifanc 2017-18. Byddwn yn sicr o gadw mewn cysylltiad â Wil ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.”

Bydd Wil yn trosglwyddo’i gyfrifoldebau fel ASI i Esme yn yr wythnosau i ddod. Yn ystod cyfnod Wil fel ASI, gweithiodd yn hynod galed i ymgyrchu â hyrwyddo lleisiau pobl ifanc Ceredigion, yn lleol ac yn Nhŷ’r Cyffredin nôl ym Mis Tachwedd 2017. Yn yr amser hwn, roedd Wil yn llwyddiannus mewn casglu barn a safbwyntiau pobl ifanc Ceredigion, ac fel rhan o’i waith fe wnaeth ymgyrchu i leihau’r oedran pleidleisio ar gyfer pobl ifanc Ceredigion.

Bydd Esme hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion i gyflwyno ymgyrch Make Your Mark yng Ngheredigion, sef balot cenedlaethol sy’n pennu’r materion sy’n cael eu trafod yn y Tŷ Cyffredin. Yn y gorffennol, mae’r pynciau hyn wedi cynnwys materion megis trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch i bawb, amddiffyn hawliau pobl LGBT+, pleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 oed ym mhob etholiad cyhoeddus a chwricwlwm i'n paratoi ar gyfer bywyd.

01/05/2018