Etholwyd Aelod Seneddol Ifanc (ASI) newydd Ceredigion, sef Poppy Evans, ddechrau mis Gorffennaf eleni gan Gyngor Ieuenctid y Sir i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain yn ystod 2021-2022.

Mae Poppy Evans yn ddisgybl Blwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Aberaeron ac fe’i hetholwyd gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion i gymryd yr awenau oddi wrth ASI presennol y Sir, Huw Jones, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Aberaeron ac yn aelod brwd o’r CFFI yng Ngheredigion, a hynny wrth i’w gyfnod fel ASI ddod i ben.

Mae Huw Jones wedi trosglwyddo ei gyfrifoldebau fel ASI i Poppy. Yn ystod cyfnod Huw fel ASI, gweithiodd yn hynod o galed i ymgyrchu a hyrwyddo lleisiau pobl ifanc Ceredigion, yn lleol ac yn Nhŷ’r Cyffredin nôl ym Mis Tachwedd 2019.

Mae Poppy eisoes wedi cychwyn ei rôl newydd fel ASI, a bydd yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau ar lefel cenedlaethol gyda Plant yng Nghymru, ac yn lleol gyda Chyngor Ieuenctid Ceredigion. Oherwydd y pandemig, mae rhaglen waith ASI Prydain yn parhau i fod ychydig yn wahanol, a bydd llawer o’r gweithgareddau yn cael eu cynnal yn rhithiol eto eleni.  

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu lleisiau a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol. Mae Senedd Ieuenctid Prydain yn gyfle i San Steffan glywed lleisiau pobl ifanc yn trafod materion y maent yn teimlo’n gryf amdanynt. Rydym yn falch iawn o Poppy fel cynrychiolydd ifanc newydd Ceredigion, ac rydym yn dymuno pob lwc iddi dros y flwyddyn nesaf yn y digwyddiadau paratoi, yn y ddadl fawr yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn y broses ymgyrchu yn dilyn y ddadl.”

I ddilyn holl ddatblygiadau’r gwasanaeth ieuenctid yng Ngheredigion, ewch i wefan y gwasanaeth, neu dilynwch Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol.

13/10/2021