Bydd adleoliad posibl o Theatr Felinfach yn cael ei ystyried ymhellach ar ôl i astudiaeth ddichonoldeb gael ei gwblhau i ystyried opsiynau dylunio posibl ar gyfer y Theatr.

Cytunodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion mewn cyfarfod ar 31 Gorffennaf i wneud ymchwiliadau pellach mewn i opsiwn a fyddai’n gweld adleoliad posibl y Theatr fel bod yr adeilad newydd yn rhannu un safle ag ysgol ardal newydd Dyffryn Aeron yn ddibynnol ar y cynnig am ysgol ardal newydd yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor yn dilyn ymgynghoriad statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, “Mae Theatr Felinfach wedi bod yn rhan bwysig o galon ddiwylliannol Ceredigion am ddegawdau ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych mewn theatr gymunedol a chynnal cynhyrchiadau cyfrwng Cymraeg. Mae’n bwysig ein bod yn edrych i’r dyfodol i ystyried sut gallwn gefnogi ac adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud yn y Theatr. Mae penderfyniad y Cabinet yn galluogi’r Cyngor i ystyried ymhellach sut gallwn wireddu hyn.”

Opsiwn arall o dan ystyriaeth yw gwella adeilad cyfredol y Theatr a’i adnoddau. Mae penderfyniad y Cabinet yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o fuddsoddi yn nyfodol y bobl.

31/07/2018