Gwobrwywyd pedwar dysgwr o Geredigion am safon eu Cymraeg ysgrifenedig yng Ngŵyl Haf Merched y Wawr ym Machynlleth ar Ddydd Sadwrn, 19 Mai.

Ers sawl blwyddyn bellach cynhelir cystadlaethau ysgrifennu Cymraeg yn genedlaethol gan Ferched y Wawr, a hynny i ddysgwyr sy’n ddynion a menywod fel ei gilydd. Cynhelir y cystadlaethau ar dair lefel, sef lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Eleni, daeth 4 o’r 9 gwobr i Geredigion ac i ddysgwyr sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Rhos Helyg, Campws Llangeitho bob nos Fawrth ac yn Ysgol Bro Pedr, Llambed bob nos Fercher gyda’r tiwtor Carol Thomas o Lanwnnen.

Gwobrwywyd Shelagh Yeomans o Dregaron â’r wobr gyntaf a Graham Parker o Benuwch â’r ail wobr ar lefel Sylfaen am ysgrifennu cerdyn post o lan y môr. Ar lefel Ganolradd gwobrwywyd dwy o Lwyn-y-groes gydag Ann Owen yn derbyn y wobr gyntaf a Jane Unitt yr ail wobr am ysgrifennu dyddiadur wythnos ‘Ar Lan y Môr’. Mewn seremoni urddasol ar lwyfan yr Ŵyl ym Machynlleth cyflwynwyd tlws o lechi, tystysgrif a thocyn llyfr yr un iddynt.

Wrth glywed am eu llwyddiant, dywedodd Carol Thomas, eu tiwtor “Rwy’n hynod falch o’r dysgwyr, nid yn unig am y gwobrau y maent wedi’u hennill, ond hefyd am eu hymroddiad a’u dycnwch yn meistroli’r iaith a’i defnyddio’n feunyddiol yn eu bywydau”.

Ymatebodd Graham Parker drwy ddweud, “Mae dysgu Cymraeg yn nosbarth Llangeitho yn brofiad gwych. Mae’r dysgwyr eraill mor gyfeillgar a chefnogol ac mae Carol yn diwtor arbennig sydd bob amser yn ein hannog i fwynhau’r iaith, i fanteisio ar bob cyfle i siarad, ysgrifennu, cymdeithasu a chystadlu ar lefel lleol a chenedlaethol.”

Daeth clod i Shelagh Yeomans a Graham Parker o ddosbarth Llangeitho, yn ogystal, wrth iddynt gystadlu yn Eisteddfod Dysgwyr Siroedd Ceredigion, Caerfyrddin a Phowys, a gynhaliwyd yn ddiweddar. Enillodd Shelagh y drydedd wobr am gyfres o bedwar ffotograff ac enillodd Graham y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y Gadair am gerdd ar y testun ‘Pellter’.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Ddysgu Cymunedol a Diwylliant, “Mae’n hyfryd gweld ein dysgwyr Cymraeg yn ceisio mewn amryw o gystadlaethau i ddysgu, datblygu a mwynhau, gan ddod i’r brig. Llongyfarchiadau a daliwch ati!”

Mae’r Gwasanaethau Dysgu gydol oes a Diwylliant yn cynnig dosbarthiadau Cymraeg yn ystod y dydd a dosbarthiadau nos sy’n amrywio o ychydig oriau i gyrsiau diwrnod cyfan. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y dosbarthiadau yn eich ardal, cysylltwch â Meryl Evans ar 01545 572715 neu e-bostiwch Meryl.Evans@ceredigion.gov.uk.

Llun: Jane Unitt, Graham Parker, Carol Thomas, Shelagh Yeomans ac Ann Owen

19/06/2018