Lansiwyd Sialens Ddarllen yr Haf 2018 yn Llyfrgelloedd Ceredigion ar ddydd Sadwrn, 14 Gorffennaf a fydd yn rhedeg hyd ddydd Sadwrn, 29 Medi.

Enw’r sialens eleni yw Dyfeiswyr Direidi, wedi’i ysbrydoli gan Beano, comig i blant a hoffwyd gan lawer, sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn yn ystod gwyliau’r haf, ar agor i blant o oedran ysgol gynradd. Gall plant gofrestru yn eu llyfrgell leol a bydd angen iddynt ddarllen wyth llyfr o’r llyfrgell o’u dewis nhw i gwblhau’r sialens. Mae gwobrwyau cyfyngedig i gasglu ar hyd y ffordd ac mae am ddim i gymryd rhan.

Eleni, bydd plant yn archwilio map o Beanotown, i ddod o hyd i’r trysor rhyfedd wedi’i chladdu, i fod yn ddyfeiswyr direidi iawn! Bydd Dennis, Gnasher a ffrindiau yn eu helpu i ddatrys cliwiau a chasglu sticeri, a chael llawer o hwyl ac antur ar hyd y ffordd.

Dywedodd Ray Quant MBE, sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Llyfrgelloedd, “Nawr bod y gwyliau haf wedi cychwyn, efallai eich bod chi’n chwilio am bethau i gadw’r plant yn brysur. Pa ffordd well na galw heibio yn eich llyfrgell leol a dechrau sialens am ddim sy’n rhedeg hyd diwedd mis Medi. Hefyd, tra eich bod chi yno, beth am godi llyfr newydd i’ch hunan, neu ddarganfod sut i lawr lwytho e-zine neu lyfr sain? Mae Llyfrgelloedd Ceredigion yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau - mae yna wir rywbeth o ddiddordeb i bawb.”

Dilynwch Llyfrgelloedd Ceredigion ar eu tudalen Facebook newydd, ‘Llyfrgell Ceredigion Library’, neu ymwelwch â’r wefan, libraries.ceredigion.gov.uk.

 

24/07/2018