Cwblhawyd gwaith i ledu’r droedffordd ar Ffordd Pont y Cleifion yn ddiweddar, sy’n ddiweddglo ar welliannau a oedd yn rhan o becyn grant dwy flynedd Teithio Llesol yn Aberteifi, gan Gyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ray Quant MBE, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, “Rwy’n hynod falch y derbyniwyd arian grant o £294,575 oddi wrth Gronfa Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru dros ddwy flynedd y rhaglen. Ar y cyd â chyfraniadau ariannol oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberteifi roedd cyfanswm y pecyn yma’n £336,750 a bydd o fantais i les preswylwyr Tref Aberteifi. Clustnodwyd gwelliannau pellach posib gan Swyddogion Priffyrdd, a chânt eu datblygu’r flwyddyn nesaf, gyda’r nod o’u gweithredu a’u hadeiladu yn y dyfodol.”

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, canolbwyntiwyd y gwelliannau yn ardal Ysgol Gynradd Aberteifi, lle cyflwynwyd ardal 20mya newydd gyda mesurau tawelu traffig a gwaith ar ledu’r troedffyrdd, uwchraddio mannau croesi a llwybr newydd i’r pwll nofio. Darparwyd cysgodfa beiciau newydd a dwy gysgodfa newydd i sgwteri yn yr ysgol gynradd er mwyn annog mwy o siwrneiau Teithio Llesol a llai o deithiau mewn cerbydau. Er mwyn cynorthwyo â hyn, darparwyd dau sgwter newydd a helmedau gyda’r ysgol yn eu defnyddio i ddisgyblion ennill ‘Sgwterwr yr wythnos’.

Yn ystod yr ail flwyddyn, gweithredwyd ar ardal 20mya a mesurau tawelu traffig y tu allan i Ysgol Uwchradd Aberteifi, gyda throedffyrdd lletach a mannau croesi uwch fydd o gymorth i gerddwyr a defnyddwyr â phroblemau symudedd. Darparwyd cysgodfa newydd i feiciau er mwyn annog staff a disgyblion gerdded i’r ysgol. Roedd y cynllun yn cynnwys cwblhau’r cyswllt troedffordd sydd ‘ar goll’ i ochr arall yr heol ar Ffordd Aberystwyth gydag wyneb newydd sydd wedi gwella’r cysylltiad i gerddwyr a boddhad defnyddwyr.

Gosodwyd ynys groesi newydd i gerddwyr ar y ffordd er mwyn cynorthwyo â cherddwyr yn croesi Ffordd Aberystwyth. Roedd yr hen droedffordd ar Ffordd Pont y Cleifion yn gul ac yn anaddas ar gyfer y rheiny â phroblemau symudedd a’r rheiny sydd â chadair wthio am fod cwrbyn isel yno. Fodd bynnag, yn dilyn y gwaith adeiladu diweddar, mae’r darn yma o’r droedffordd bellach yn gweddu â safonau dylunio modern ac yn darparu cyswllt Teithio Llesol gwell rhwng canol y dref a Pharc Busnes Teifi.

Ychwanegodd y Cynghorydd John Adams-Lewis, Aelod Lleol ward Mwldan a Chadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gynradd Aberteifi, “Rwy’n hynod o falch fod Cyngor Tref Aberteifi wedi cefnogi’r gwelliannau ariannol yma sydd wedi golygu nifer o welliannau i droedffyrdd yn y dref, yn enwedig yn ardal ein dwy hysgol sydd wedi elwa’n fawr o welliannau diogelwch y ffyrdd a gostyngiad mewn terfynau cyflymder. Hoffem hefyd ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion am eu cyfraniad ariannol ac i Swyddogion Priffyrdd am sicrhau’r arian grant ac am oruchwylio’r gwaith o safon uchel.”

22/03/2018