Mae’r Cyngor yn croesawu ymatebion i ymgynghoriad ar ddefnydd a dyfodol Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon sydd wedi ei lansio yn ddiweddar.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu pedwar Safle Gwastraff Cartref. Un o’r rhain yw safle Rhydeinon ger Llanarth. Mae'r Safle Gwastraff Cartref ger Aberystwyth yn gwasanaethu Gogledd y sir ac mae'r safle ger Aberteifi yn gwasanaethu De'r sir. Mae Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon yn un o ddau safle sy’n gwasanaethu canol y sir.

Esboniodd y Cynghorydd Dafydd Edwards Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae'r Safleoedd Gwastraff Cartref yn costio cyfanswm o oddeutu £1.1 miliwn y flwyddyn i'w cynnal. Mae hyn yn cymharu â £1.6 miliwn ar gyfer darparu'r gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd. Er mwyn medru parhau i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’n holl drigolion, mae'n rhaid i ni ystyried ffyrdd mwy effeithlon o ddarparu ein gwasanaethau. Mae'r gyfraith yn gosod rhwymedigaeth ar y Cyngor i ddarparu Safleoedd Gwastraff Cartref a byddwn yn parhau i fodloni'r rhwymedigaeth hon. Mae'r cyllidebau yn crebachu gan gynnwys yr arian grant sy'n cefnogi'r ddarpariaeth hon yn uniongyrchol. Wrth ymateb i hyn, efallai y bydd yn angenrheidiol ac yn fwy priodol darparu 3 safle gwastraff cartref yn y dyfodol - un safle yng ngogledd y sir, un safle yng nghanol y sir ac un safle yn ne'r sir.”

Mae contract safle Rhydeinon yn dod i ben. Oherwydd hyn a’r pwysau ariannol dybryd, mae’r Cyngor yn adolygu’r ddarpariaeth o safleoedd gwastraff cartref y sir ac yn ystyried dyfodol safle Rhydeinon. Rhan ganolog o’r broses hon yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o gynigion y Cyngor.

Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Cyngor ar www.ceredigion.gov.uk/ymgynghoriadau. Mae modd casglu copïau papur o’r ymgynghoriad yn Swyddfeydd Taliadau’r Cyngor ac mewn llyfrgelloedd ar draws y sir. Gall drigolion dderbyn copi papur o’r ymgynghoriad trwy’r post ar gais trwy gysylltu 01545 572572 neu gwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk . Bydd rhaid cwblhau a dychwelyd yr ymgynghoriadau at y Tîm Rheoli Gwastraff, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA erbyn 5 Awst 2018. Bydd yr ymgynghoriad ar-lein yn cau ar yr un dyddiad.

28/06/2018