Perfformir cynhyrchiad ESTRON gan Hefin Robinson ar lwyfan Theatr Felinfach ar nos Sadwrn, 5 Mai am 7:30yh.

Enillodd y ddrama ddireidus a dirdynnol hon y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2016, ac fe’i llwyfannwyd am y tro cyntaf yn y Cwt Drama ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017. Cafodd perfformiadau’r Cwt Drama ymateb ardderchog gan adolygwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.

Enwebwyd Hefin am wobr yr Awdur Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018, am y ddrama hon. Janet Aethwy yw’r gyfarwyddwraig ac mae’r cast yn cynnwys Gareth Elis, Ceri Elen a llais Elin Llwyd.

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yw’r ddrama, mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Theatrau Sir Gâr. Mae Estron yn rhan o Theatr Gen Creu – menter newydd Theatr Genedlaethol Cymru sy’n cadarnhau ymrwymiad y cwmni i ddatblygu ysgrifennu newydd ac i feithrin doniau ar gyfer y theatr Gymraeg.

Mae’r tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau, yn £12 i oedolion, £11 i bensiynwyr a £10 i blant a myfyrwyr. Archebwch docynnau drwy ffonio 01570 470697 neu ar-lein ar theatrfelinfach.cymru.

25/04/2018