Mae Donna Pritchard wedi’i phenodi fel Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion. Mae Porth Ceredigion yn wasanaeth gofal cymdeithasol newydd sy’n canolbwyntio ar helpu pobl yn gynnar i atal problemau rhag mynd yn fwy difrifol.

Bydd Porth Ceredigion yn cynnig gwasanaethau sy’n gweithio gyda chryfderau pobl. Bydd y gwasanaeth yn ymateb mewn modd amserol a chreadigol a fydd yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’r unigolyn.

Eifion Evans yw Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Mae Donna yn benodiad o safon uchel. Mae Porth Ceredigion yn ffordd newydd o weithio sy’n rhoi’r help cywir i bobl ar yr adeg iawn. Mae hyn yn golygu ein bod yn atal problemau llai rhag tyfu’n rhai mwy difrifol. Er mwyn cyflawni hyn, roedd angen unigolyn galluog a phrofiadol gyda gweledigaeth glir ar gyfer y gwasanaeth. Donna yw’r person hwnnw.”

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu penodi rhywun o galibr Donna. Roedd hi’n ymgeisydd cryf iawn ac mae ganddi’r profiad sydd angen arnom i wneud Porth Ceredigion yn llwyddiant.”

Yn ystod ei gyrfa, mae Donna wedi gweithio i’r cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Yn fwyaf diweddar, mae wedi gweithio fel Rheolwr Gwasanaeth y cyngor dros Iechyd Meddwl, Diogelu Oedolion, Camddefnyddio Sylweddau a Gwasanaethau’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Mae wedi bod yn nyrs gofrestredig ers 37 mlynedd ac mae wedi gweithio mewn swyddi rheoli ers 23 o flynyddoedd.

Dywedodd Donna Pritchard, “Mae’n anrhydedd ac yn gyffrous i mi fod yn rhan o dîm corfforaethol a fydd yn arwain Cyngor Sir Ceredigion wrth weithredu gwasanaethau arloesol a thrawsnewidiol ar gyfer y dyfodol. Rwy’n angerddol dros ddarparu gwasanaethau o safon sy’n sicrhau bod y person yn ganolog i’r hyn a wnawn.”

Mae hi wedi gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol mewn rolau clinigol a rheoli. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ar draws meysydd arbenigol gan gynnwys gofal dementia, iechyd meddwl oedolion, anabledd dysgu, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau diogelu oedolion.

Penodwyd Donna mewn cyfarfod o’r cyngor ar 1 Awst wedi i gynghorwyr bleidleisio i gefnogi ei phenodiad.

08/08/2019