Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd ers blynyddoedd maith. Pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd arferwn fwynhau ymweld â dosbarthiadau nos i sgwrsio â dysgwyr ar Gynllun Pontio CYD.

Cefndir: Cariad at astudio, ymchwil a dysgu gydol oes

Yn fy mlynyddoedd israddedig yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 2004 a 2007, sefydlais a rhedais gymdeithas sgwrs a chymdeithasu i fyfyrwyr oedd yn dysgu Cymraeg. Ces fy mhenodi yn Diwtor Cymraeg i Oedolion yn y Brifysgol yn 2011, ac ers hynny, dwi wedi tiwtora dosbarthiadau wythnosol dwys, ynghyd â chyrsiau wythnos a chyrsiau haf, yn ddi-dor. Yn dilyn dwy flynedd o astudio ffurfiol enillais Gymhwyster Cenedlaethol Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn 2018.

Y Gymraeg hefyd yw maes fy ngyrfa academaidd. Ar ôl ennill gradd B.A. Anrhydedd Sengl yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2007 euthum i Brifysgol Bangor, lle graddiais yn 2010 gydag M.A. mewn Astudiaethau Crefydd gyda thraethawd yn ffocysu ar ieithwedd weledol ac ieithyddol cyhoeddiadau’r Gymraeg yn y maes yn yr 20fed ganrif. Yna cwblheais radd MPhil yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2013. Ers 2015, rwyf wedi bod yn gweithio ar draethawd PhD ar hybridedd diwylliannol cyfieithiadau i’r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir gyda Chanolfan Uwchefrydiau Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru.

Gweithiais hefyd fel Swyddog Ymchwil ar brosiect Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth i lunio Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg, sef llyfrgell ar-lein o gyfieithiadau i’r Gymraeg yn y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Yn ystod f’astudiaethau a’m gyrfa yr wyf wedi cyflwyno a chyhoeddi gwaith ymchwil mewn cynadleddau a chyfnodolion yng Nghymru, Ewrop, a Gogledd America.

Rôl Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith

Dechreuais yn y swydd hon ym mis Gorffennaf, ac rwyf wedi bod yn brysur iawn o’r cychwyn yn sefydlu’r arlwy newydd o wersi, gweithgareddau, a digwyddiadau a fydd yn darparu’r cyfleoedd perffaith i staff Cyngor Sir Ceredigion i ddysgu Cymraeg mewn dulliau hwyliog a gafaelgar.

Ceir yn y swydd siawns a sialens i ddatblygu rhaglen ddysgu ffurfiol ac anffurfiol newydd ym myd Dysgu Cymraeg. Mae’r Cynllun Peilot Cymraeg Gwaith, a gyllidir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn un arloesol sy’n ateb galw hanfodol yng Ngheredigion, un a fydd yn ei dro’n bwydo nôl i ddulliau gweithredu’r sector addysg Cymraeg Gwaith yng Nghymru yn gyffredinol. Fe’i gwelaf yn gyfle i ddatblygu rhywbeth newydd sydd o ddefnydd gwirioneddol i’r bobl o’m cwmpas. Mae felly’n gyfle hynod o werthfawr ac arbennig o gyffrous, ac yn fenter yr wyf yn wirioneddol falch o gael bod yn rhan ohoni.

Dysgu Ffurfiol

Pennaf lawenydd unrhyw diwtor yw cael dysgu dosbarth. Mae’n fraint i gael cynorthwyo dysgwyr ar eu taith tuag at ruglder, a chael ymgymryd â’r her o baratoi gwersi o’r safon gorau mewn ymateb i anghenion y dysgwyr, fel unigolion ac fel aelodau o ddosbarthiadau unigryw. Mae i ddysgu ffurfiol ei ddyletswyddau hefyd – dyletswydd o fanylder ymchwil rhagbaratoawl, dyletswydd o arweiniad hyddysg a chywrain i’r dysgwyr, a dyletswydd o fireinio parhaus o ddealltwriaeth y tiwtor o’i bwnc. Af ati i baratoi a darparu holl ddosbarthiadau’r Cyngor gyda’r dyletswyddau hyn yn eglur yn fy nghynlluniau, a chydag anghenion y dysgwyr yn flaenllaw yn fy meddwl.

Dysgu Anffurfiol

Ffenomen gymunedol yw iaith, ac mae cynnig cyfleoedd lle gall dysgwyr ymffurfio’n gymuned iaith ac ymarfer eu Cymraeg y tu allan i furiau’r ystafell ddosbarth hefyd yn rhan hanfodol o’m swydd.

Mewn ymateb i hyn, rwy’n trefnu’r Clwb Cinio Cymraeg wythnosol i staff y Cyngor. Rhydd y Clwb gyfle i ddysgwyr o bob lefel a siaradwyr rhugl i gwrdd dros ginio a sgwrsio yn Gymraeg. Dyma ofod croesawgar lle gall dysgwyr ddefnyddio a datblygu’u Cymraeg – efallai am y tro cyntaf y tu allan i’r dosbarth – a dod yn rhan o gymuned o siaradwyr Cymraeg y Cyngor.

Cydlynaf hefyd raglen Ffrind Iaith y Cyngor. Yn y rhaglen hon, gosodir dysgwyr a siaradwyr rhugl y Cyngor mewn parau, gan gwrdd â’i gilydd yn gyson i ddefnyddio’u Cymraeg mewn cyd-destunau gwahanol. Mae’r cynllun yn sicrhau cyfle arall i ddysgwyr y Cyngor i fynd â’u Cymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac ymffurfio’n gymuned iaith.

Cyfle i siarad 

Trefnaf hefyd raglen o ddigwyddiadau i gefnogi’r cyfleoedd dysgu anffurfiol. Mae’r rhain wedi cynnwys taith i’r Eisteddfod Genedlaethol, ymweliadau gan siaradwyr gwadd dylanwadol a phoblogaidd o fyd y Gymraeg, ac amrywiol weithgareddau eraill o ddiddordeb ieithyddol a diwylliannol i’n dysgwyr.

I nodi diwrnod Shwmae Su’mae eleni dathlodd y Clwb Cinio Cymraeg drwy gynnal cystadleuaeth bobi ar y thema ‘Shwmae’. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac fe’i mynychwyd gan lawer o bobl. Roedd y dysgwyr wrth eu boddau o gael ymarfer eu Cymraeg dros baned a detholiad o gacennau blasus!

Cynhelir Diwrnod Shwmae Su’mae ei hun ar 15 Hydref. Cyfle ydyw i gael hwyl a rhannu’r iaith Gymraeg – yn y siop a’r ganolfan hamdden, yn y gwaith a’r ysgol, ar y caeau chwarae a chyda’ch ffrindiau. Gall unrhyw un ddangos eu cefnogaeth i’r fenter trwy ddechrau sgwrs yn y Gymraeg – ewch amdani!

Prysur ac Amrywiol

Mae pob dydd yn unigryw a chynhyrchiol, ac yn cynnig ffyrdd newydd i gyfrannu at y defnydd o Gymraeg ymysg staff y Cyngor. Dyna pam mae fy swydd fel Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith yn rhoi cymaint o fwynhad i mi.

12/10/2018