Mae Trudy Jones a Rhian Evans, aelodau o’r Tîm Gwasanaethau Twristiaeth Ceredigion, yn rhannu diwrnod yn eu swyddi fel Cynorthwywyr Gwybodaeth yng Nghanolfan Groeso Aberaeron.

Trudy: Roeddwn i’n gweithio mewn cegin ysgol a penderfynais y byddwn i’n hoffi newid gyrfa. Rhoddodd fy ffrind syniad am chwilio am swyddi yn y Canolfannau Croeso yng Ngheredigion. Doeddwn i ddim wedi astudio Twristiaeth ond yn mwynhau mas draw yn cwrdd â phobl ac yn gyffrous gyda’r cyfle i geisio gwerthu Ceredigion.

Rydw i wastad wedi bod yn gyfforddus iawn yng nghwmni pobl ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm. Mae cymaint o amrywiaeth yn fy rôl ac mae pob diwrnod yn wahanol. Mae gen i fodlonrwydd yn fy swydd, gan wybod fy mod yn gallu hyrwyddo Ceredigion a darparu gwybodaeth sydd ei angen ar yr ymwelwyr, fel eu bod yn gadael y ganolfan yn teimlo wedi eu croesawu, yn wybodus a gyda gwên ar eu hwynebau. Mae’n deimlad braf pan mae’r ymwelwyr yn dod nôl i’r ardal dro ar ôl tro. Maen nhw’n dod mewn i’r ganolfan a rhoi diolch i ni am argymell lleoliad trawiadol neu fwyty blasus.

Mae bod yn amyneddgar, gwrando a chydnabod gofynion ein hymwelwyr yn rhan bwysig o’n gwaith gan ddarparu gwasanaeth sy’n fwy na’r hyn a ddisgwylir.

Rhian: Wedi gweithio yn y diwydiant hamdden fel athrawes nofio ac achubwr bywyd, dewisais astudio am BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Astudiaethau Hamdden a Thwristiaeth yng Ngholeg Ceredigion. Fe wnaeth y cwrs agor fy llygaid i’r diwydiant twristiaeth a’i bwysigrwydd i ni yma yng Ngheredigion. Pan welais fy swydd gyfredol yn cael ei hysbysebu, meddyliais y gallwn wneud y swydd ac y byddwn yn mwynhau ei wneud. Es amdani ac rwy’n falch y gwnes i achos mae’r swydd yn berffaith imi.

Fel Trudy, rwy’n berson cymdeithasol ac angerddol iawn am ein sir brydferth felly rwy’n cymryd pleser mawr wrth siarad gyda ymwelwyr am yr holl lefydd rhyfeddol sydd i’w ymweld yng Ngheredigion. Dywed rhai wrthyf y gallaf siarad dros Gymru; mae fy ffrind yn dweud yn aml wrtha i y medrwn gerdded mas o ystafell wag wedi gwneud ffrind newydd! Mae’n talu ffordd i fod yn siaradus yn y rôl yma a does dim byd mwy boddhaol na derbyn adborth cadarnhaol a brwdfrydig wrth ymwelwyr.”

Trudy: “Mae ein diwrnod yn dechrau gyda dyletswyddau gweinyddu sy’n cynnwys ymateb i e-byst a negeseuon wedi’u derbyn ar y ffôn dros nos. Wedyn, mae’n amser i sicrhau bod y ganolfan yn lân, yn daclus ac yn groesawgar i bawb. Rydym yn sicrhau bod y taflenni a’r eitemau i werthu yn cael eu harddangos yn gywir - does dim byd gwaeth nag arddangosfa anniben!

Unwaith mae’r drysau ar agor, mae ymwelwyr a thrigolion yr ardal yn galw i mewn gydag ymholiadau ynglŷn â pob math o bethau: traethau Baner Glas, teithiau cerdded i’r teulu, gwybodaeth am y bysiau a trenau, llefydd i fwyta ac yfed, mannau i wefru car trydanol, ardaloedd i fynd â cŵn, ble i fynd i glywed côr meibion – mae’r rhestr yn diddiwedd.

Ar bob adeg, mae’r ymwelwyr yn awyddus i archwilio’r ardal a ni wastad yn sicrhau bod yna ddigon iddyn nhw ei wneud heb fod angen gadael Ceredigion - beth bynnag yw’r tywydd! Yn ystod y flwyddyn, rydym yn gweld nifer o gerddwyr yn awyddus i wneud Sialens Llwybr Arfordir Ceredigion, a chredwch neu beidio, mae disgwyl arnom ni i wybod pa amser mae’r dolffiniaid yn gwneud ymddangosiad!
Mae’r Ganolfan Groeso yn rhedeg fel asiant tocynnau ar gyfer Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a ryn ni hefyd yn gwerthu tocynnau i ddigwyddiadau lleol un-tro. Gyda llaw, rydym yn hapus i arddangos posteri i ddigwyddiadau lleol felly galwch heibio os oes angen help arnoch chi i hyrwyddo digwyddiadau sydd i ddod.

O bryd i’w gilydd, rydym hyd yn oed yn helpu dod o hyd i gŵn sydd ar goll a hefyd eiddo coll - ni wedi derbyn llawer iawn dros y blynyddoedd gan gynnwys ffonau, camerâu, waledau a bagiau llaw i gyd yn cael eu rhoi i mewn gyda’r bwriad o’i ailgysylltu a’r perchennog cywir.”

Rhian: “Trwy gydol y dydd, ni’n delio gydag ymholiadau dros y ffôn ac e-bost, ac wrth gwrs ymholiadau wrth ymwelwyr sy’n galw mewn i’r Ganolfan Groeso. Rydym yn cwrdd ac yn croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i Aberaeron a Cheredigion – hyd yn hyn eleni, rydym wedi sylwi cynnydd mewn ymwelwyr o’r Almaen, yr Iseldiroedd a’r Amerig.

Yn aml iawn, ni yw’r bobl gyntaf mae’r ymwelwyr yn cwrdd pan maent yn cyrraedd Ceredigion a, fel maen nhw’n dweud, ‘mae’r argraff cyntaf yn cyfri’. Rydym yn ceisio helpu gyda cymaint o’u hymholiadau a phosib ond bob hyn a hyn, mae angen i ni gysylltu â chydweithwyr mewn gwasanaethau eraill i wneud yn siŵr bod eu hanghenion nhw yn cael eu cwrdd.

Rydym yn helpu ymwelwyr i ddod o hyd i lety yng Ngheredigion a gan ein bod ni’n cynnig gwasanaeth i archebu gwelyau, rydym yn cadw mewn cyswllt â darparwyr llety lleol - lleoliadau gwely a brecwast, gwestai, bythynnod hunan ddarpar a pharciau gwyliau - i ddod o hyd a phwy sydd â llefydd wag munud olaf ac i wirio’r prisiau. Rydym yn cysylltu â Croeso Cymru ynglŷn a ansawdd statws graddio llety yn yr ardal. Mae hyn yn gynllun asesiad ansawdd ledled y wlad sy’n ystyried cyfleusterau ac ansawdd cyffredinol y llety o brofiadau ymwelwyr. Gall ymwelwyr gael cysur o wybod bod unrhyw lety maen nhw’n archebu trwy’r Canolfan Groeso wedi'i raddio o ansawdd da.

Yn ogystal a arweinlyfrau a mapiau y byddech yn disgwyl cael mewn Canolfan Groeso, rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth o gelf a chrefft prydferth, wedi’u cynhyrchu’n lleol. Erbyn hyn, mae tua 45 artist lleol yn gwerthu eu cynnyrch yng Nghanolfannau Croeso Ceredigion. Yng Nghanolfan Croeso Aberaeron, rydym yn cynnal arddangosfeydd celf sy’n arddangos artist gwahanol bob mis. Fel y mae’r eitemau celf a chrefft newydd yn cyrraedd, rydym yn dod i nabod yr artistiaid gan sicrhau ein bod ni’n ymwybodol o’r ffeithiau ynglŷn a’u gwaith. Rydym hyd yn oed wedi trefnu cludo llun dramor i gwsmer o’r blaen.

Mae’n sicr y gallwn ni ddweud nad oes 'na ddau ddiwrnod fel ei gilydd fel Cynorthwywyr Gwybodaeth yng Nghanolfan Groeso Aberaeron!”

Mae Canolfan Groeso Aberaeron ar agor ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 10yb i 4yp (Ar agor ar benwythnosau Gŵyl y Banc ac ar ddydd Sul o fis Gorffennaf hyd ddiwedd mis Awst. Ar gau ar ddydd Iau yn y Gaeaf).

I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch AberaeronTIC@Ceredigion.cymru neu ffoniwch 01545 570602. Darganfyddwch mwy am Geredigion ar wefan Darganfod Ceredigion www.discoverceredigion.wales/Cymraeg.

02/08/2018