Mae fy mywyd yn y byd gwaith wedi bod yn amrywiol dros y blynyddoedd; Rwyf wedi gweithio fel argraffwr, chwistrellwr paent ceginau mewn amrywiaeth o ffatrïoedd ac hefyd gyrrwr tryc fforch godi.

Er fy mod i wedi mwynhau’r swyddi yma, roeddwn wastad yn teimlo y byddwn yn hoffi newid gyrfa, ond yn ansicr i ba gyfeiriad dylen i fynd. Dywedodd ffrind agos i mi, a oedd yn mynd trwy gyfnod anodd yn ei bywyd, bod siarad â mi wedi ei helpu hi yn fawr iawn, ac roedd gen i'r sgiliau i wneud hyn fel gyrfa.

Pan roeddwn i’n gweithio’n llawn amser, dechreuais wneud ychydig o waith gwirfoddol i ddatblygu sgiliau ac elwa profiadau. Fe wnes i wirfoddoli fel gweithiwr allgymorth i fudiad a oedd yn darparu cyfnewid nodwyddau am ddim. O hynny ymlaen, roeddwn i’n gwybod mai rôl tebyg i hyn oeddwn i’n dda yn gwneud ac yn rhagori ynddo. Fe wnes i wedyn gwirfoddoli gyda Cyngor Am Bopeth a hefyd mewn lloches i fenywod - rôl y gwnes i fwynhau yn fawr. Derbyniais hyfforddiant helaeth o’r holl brofiadau a gwnaethant roi platfform i fi ddechrau mewn rolau cefnogaeth bellach.

Yn wreiddiol o Hull, Dwyrain Swydd Efrog, symudais i Geredigion dros ddeng mlynedd yn ôl gyda fy nheulu, a bûm i’n ddigon lwcus i gael gwaith yn cefnogi unigolion di-gwaith.

Yn y blynyddoedd diweddaraf, cymerais rôl fel Mentor gyda Gweithffyrdd+. Mae Gweithffyrdd+ yn cefnogi pobl sydd allan o waith, dros 25 oed, ac â rhwystrau i'w goresgyn, er enghraifft, salwch; anabledd; oedran; cyfrifoldebau gofalu; neu’n dod o gartrefi di-waith.

Mae fy rôl fel Mentor yn cynnwys gweithio gydag oedolion sydd ymhell o’r farchnad gyflogaeth a darparu sgiliau sydd angen iddyn nhw er mwyn ennill cyflogaeth. Mae Gweithffyrdd+ yn darparu cyfleoedd i Fentoriaid weithio gydag unigolion ar sail un i un, creu CV, wneud ymchwil gwaith, mynychu profiadau gwirfoddoli a hyfforddiant.

Rydym yn dîm bach sy’n cynnwys fi a tri o fentoriaid arall; Al a Carly sy’n gweithio yn y gogledd ac wedyn Ffion a fi yn gweithio yn de’r sir. Er bod gyda ni ein ardaloedd, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i rannu syniadau ac yn gydweithredol.

Mae fy niwrnod arferol yn cynnwys cysylltu ag unigolion di-waith. Ar ôl cofrestru, rwy’n gweithio gyda’r unigolyn i greu cynllun penodol i'w hanghenion nhw a’i disgwyliadau. Drwy’r cynllunio yma, gallwn ni nodi’r fath o gyflogaeth y maent eisiau gwneud a pa sgiliau sydd ei angen. Efallai bydd hyn yn cynnwys mynychu cwrs i dderbyn cymhwyster, edrych ar drafnidiaeth addas, datblygu hyder, sgiliau cyfweliad a threfnu lleoliadau gwirfoddol i gael profiadau - popeth wedi’i anelu at gefnogi’r unigolyn i gyflawni ei nod.

Dros y chwe mis diwethaf, dw i wedi bod yn cefnogi Amanda Needham, 57, a wnaeth symud i’r ardal yn ddiweddar gyda’i gŵr. Roedd profiad gan Amanda mewn swyddi manwerthu, ac roedd hi’n obeithiol am rôl nad oedd yn rhy straenus gydag oriau addas. Heb wybod pa fath o waith oedd ar gael yn yr ardal, gofynnodd Amanda am gymorth a chyngor gan Gweithffyrdd+.

Mae anawsterau nam clyw dwys gydag Amanda sydd yn gallu bod yn anodd mewn unrhyw weithle. Er hyn, drwy fod yn Fentor i Amanda, fe weithion ni gyda’n gilydd i greu cynllun. Yn ymwybodol o’r rhwystr yma, roeddwn i’n gallu helpu edrych ar ba opsiynau o gyflogaeth addas oedd ar gael yn yr ardal. Cysylltais i gyda chyflogwr lleol yn yr ardal a oedd yn sefydlu safle gwersyll newydd gyda siop fferm a chaffi bistro.

Yn gyntaf, sefydlais pa gyfleoedd cyflogaeth oedd ar gael ar y fferm ac os oedd unrhyw un o’r rhain yn addas i Amanda. Wedyn, trefnais i Amanda gael ychydig o brofiad gwaith, ac roedd y perchnogion yn hapus iawn gyda’r cynnydd yr oedd hi’n gwneud. Ar y dechrau, cynigwyd gwaith rhan amser i Amanda ar ôl iddi dderbyn hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch. Nawr, mae hyn wedi datblygu i waith llawn amser yn y caffi bistro ger Aberaeron, gydag Amanda’n weithio tuag at gymwysterau pellach mewn Hylendid Bwyd.

Mae fy rôl fel Mentor yn fy ngalluogi i helpu pobl fel Amanda nôl mewn i waith. Mae’n deimlad mor wobrwyol a dyma’r prif reswm pam fy mod yn caru fy ngwaith cymaint. Pan fyddaf yn cwrdd â phobl sydd wedi bod yn ddi-waith am sawl blwyddyn, gall rai deimlo'n isel iawn a cholli gobaith o ddod o hyd i swydd addas. Fy ngwaith i yw dangos iddynt fod opsiynau ar gael a sut i gael mynediad atynt gyda’n cymorth ni. Gyda Gweithffyrdd+, rydym yn helpu dangos i bobl bod ffyrdd i ddod dros rhwystrau, ac rydym yn gallu helpu i wella’r sefyllfa.

Rwy'n falch fy mod yn rhan o dîm rhagweithiol yn Gweithffyrdd+, lle gallwn gynnig help, arweiniad a chefnogaeth mewn sawl ffordd i bobl Ceredigion.

Mae Gweithffyrdd+ yn cynnal sesiynau galw heibio bob wythnos yng Nghanolfannau Gyrfa yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae hyn yn gyfle i unrhyw un sydd eisiau dod o hyd i fwy am yr hyn y mae Gweithffyrdd+ yn ei gynnig a’r help sydd ar gael i chwilio am hyfforddiant addas neu gyfleoedd i fynd nôl mewn i gyflogaeth.

Mae cronfa’r UE yn cael effaith gadarnhaol ar bobl, busnesau a chymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro trwy godi sgiliau a helpu pobl nôl i waith. Mae’r prosiect wedi’i chefnogi gan £17.3 miliwn o gyllid Cymdeithasol Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru. I ddarganfod mwy o wybodaeth ar Gweithffyrdd+, ewch i’r wefan, dilynwch ni ar Facebook neu cysylltwch â ni ar 01545 574 193 / workways@ceredigion.gov.uk.

25/04/2018