Rwyf wedi bod yn y swydd hon ers tair blynedd ac rwy'n mwynhau'r ffaith fy mod yn helpu i wneud bywyd rhywun ychydig yn fwy hwylus.

Meithrin sgiliau ar hyd y blynyddoedd

Rwyf wedi gweithio mewn sawl rôl yn y gorffennol, ac roeddent i gyd yn wahanol iawn i'w gilydd: gweithiais fel Clerc ward yn Ysbyty Bronglais ar ôl i mi adael yr ysgol, mewn optegydd, ac yna roeddwn yn weithredwr CCTV am 13 o flynyddoedd yng ngorsaf heddlu Aberystwyth. Fel gweithredwr CCTV, roedd yn hanfodol cadw cofnodion manwl a rhoi sylw manwl i bob manylyn. Mae pob un o'r rolau blaenorol hyn yn sicr wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau sy’n ddefnyddiol ar gyfer fy rôl bresennol.

Prosesu ceisiadau am Fathodyn Glas

Pan fydd pobl yn gwneud cais am Fathodyn Glas, bydd eu ceisiadau'n glanio ar fy nesg. Yna, byddaf yn gwirio eu holl fanylion ac yn asesu a ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun ai peidio.

Mae cynllun y Bathodyn Glas yn gonsesiwn parcio i bobl anabl, pobl sydd ag anawsterau cerdded difrifol neu bobl sydd â nam gwybyddol difrifol.
Mae’r cynllun ar gael i yrwyr a theithwyr, a’r bwriad yw bod y person y rhoddir bathodyn iddo’n gallu parcio'n agosach at ei gyrchfan. Oeddech chi'n gwybod y gallwch hefyd wneud cais am fathodyn os ydych chi'n gofalu am blentyn sydd â chyflwr iechyd sy'n effeithio ar ei symudedd?

Daw anableddau ar sawl gwahanol ffurf

Os oes gan rywun Fathodyn Glas yng Ngheredigion, gallwch fod yn siŵr ein bod wedi edrych ar yr holl dystiolaeth ategol er mwyn gwirio eu cymhwysedd ymlaen llaw. Trist iawn yw clywed straeon am ddeiliaid Bathodynnau Glas yn cael eu herio neu eu holi ynglŷn â’u hawl. Mae gan bawb sydd â bathodyn reswm dilys dros gael un. Cofiwch nad yw pob anabledd yn weladwy.

Sut mae’r cynllun yn gweithio

Yng Nghymru, nid ydym yn codi tâl am fathodynnau glas; mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ariannu'r rhain.
Yng Ngheredigion, yn yr un modd â’r DU gyfan, mae’r meini prawf cymhwysedd wedi'u rhannu i’r ddau grŵp canlynol:

1. Pobl sydd â hawl awtomatig i fathodyn heb unrhyw asesiad pellach - fel arfer oherwydd eu bod eisoes yn derbyn rhai budd-daliadau gwladol neu wedi'u cofrestru'n ddall.

2. Pobl sydd â hawl i gael bathodyn ar ôl asesiad pellach - fel arfer nid yw pobl yn y grŵp hwn yn derbyn unrhyw fudd-dal gwladol. Gan lenwi cais yn ôl disgresiwn, gallwch egluro wrthym pam na allwch gerdded, beth yw eich cyflwr meddygol, neu unrhyw beth sy'n effeithio ar eich gallu i symud. Gallai hefyd fod yn gyflwr sy'n gysylltiedig â'r galon neu'n fater gwybyddol. Fodd bynnag, gydag unrhyw achos sy'n perthyn i'r grŵp hwn, bydd angen i unigolion ddarparu tystiolaeth o'u cyflwr a sut mae'r cyflwr yn effeithio ar eu symudedd.

Os ydych chi’n credu efallai bod gennych chi hawl i gael Bathodyn Glas, byddwn yn eich asesu, hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich gwrthod yn y gorffennol - rydym yn edrych ar bob achos unigol yn fanwl iawn.

Yn anffodus, o bryd i'w gilydd, rydym yn derbyn ceisiadau lle mae pobl wedi ffugio'u rhesymau dros fod yn gymwys, ond byddwn yn darganfod y gwir bob tro wrth asesu'r dystiolaeth ategol.

Bathodynnau Glas dros dro
Mae Bathodyn Glas yn cael ei adnewyddu bob tair blynedd, oni bai bod gennych chi un dros dro.

Os ydych chi ar fin cael llawdriniaeth neu wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar, neu os oes disgwyl i chi gymryd peth amser i wella o salwch tymor byr, efallai y byddwch yn gymwys i gael Bathodyn Glas tymor byr. Byddai angen i ymgynghorydd ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eich bod ar restr aros a’i bod yn mynd i gymryd amser i chi wella, neu bydd angen profi eich bod wedi cael llawdriniaeth.

Rhoi help llaw

Mae cymorth ar gael er mwyn helpu pobl i lenwi'r ffurflenni cais. Mae Porth y Gymuned, a weithredir gan y Cyngor, yn grŵp gwych sy'n cynnwys pedwar Cysylltydd Cymunedol sy'n cynorthwyo unigolion a'u teuluoedd i gael cyngor a chymorth. Gallant ddod i'ch cartref i helpu gyda'r ffurflenni. Mae Age Cymru a Tai Wales & West hefyd yn sefydliadau y gallwch fynd atynt am gymorth i lenwi'r ffurflenni.

Gallwch osgoi gwario arian ar bostio - gall ymgeiswyr ymweld â swyddfeydd y Cyngor i lungopïo eu dogfennau neu ddychwelyd ffurflenni wedi'u cwblhau. Gellir anfon y rhain ataf yn uniongyrchol er mwyn i mi ddelio â nhw.

Gallwch hyd yn oed osgoi'r gost a'r drafferth o orfod trefnu llun pasbort ar gyfer eich Bathodyn Glas oherwydd gallwch drefnu ymweliad â Chanolfan Rheidol neu Swyddfeydd y Cyngor yn Aberaeron, Aberteifi a Llambed i gael eich llun wedi'i thynnu. Neu gallwch anfon eich llun drwy anfon e-bost - mae'n well gennym gefndir plaen ar gyfer y lluniau, ond peidiwch â phoeni am faint y llun oherwydd gallwn addasu'r maint.

Ymdeimlad o Dîm

Mae ymdeimlad o gymuned ymhlith y staff yma yng Nghanolfan Rheidol, mae fy nghydweithwyr yn bobl wych; pan fydd y llwyth gwaith yn cynyddu rydym ni i gyd yn helpu ein gilydd. Mae fy rheolwyr yn wych hefyd; rwy'n gwybod y gallaf fynd atynt am gyngor da a holi eu barn ar unrhyw syniadau sydd gennyf.

Cyngor defnyddiol
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein drwy wefan y Cyngor. Mae'r system ar-lein, a fydd yn eich cyfeirio at dudalen GOV.UK, wedi bod ar waith ers rhai blynyddoedd. Fodd bynnag, mae'r ffurflen wedi newid yn ddiweddar, gan ei gwneud yn symlach ac yn haws ei defnyddio.

Fel arall, gallwch ffonio Canolfan Gyswllt ein Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01545 570 881.

01/05/2019