Yn wreiddiol o Donypandy yng Nghymoedd Rhondda, gadawais i’r ysgol ar ôl fy Lefel ‘O’ (ydw, dw i wir yr oedran yna!) a threuliais 12 blynedd fel Swyddog Treth i Cyllid y Wlad yng Nghaerdydd.

Yn ystod y cyfnod yma, fe wnes i dderbyn Tystysgrif Cenedlaethol Uwch mewn Gweinyddiaeth Busnes. Ar ôl cwpwl o flynyddoedd yn teithio o gwmpas Sbaen, dychwelais i Gymru a dod yn Swyddog Tai. Yn ystod y cyfnod yma, cefais i’r profiad o drefnu digwyddiadau. Roeddwn i’n Swyddog Cyswllt y Staff i Fforwm Cymdeithasol y Tenantiaid, gyda’r cyfrifoldeb o drefnu digwyddiadau ac adloniant. Rydw i wastad wedi mwynhau trefnu digwyddiadau, o fy mhriodas, i fynd i’r theatr a gwyliau mewn grŵp mawr o ffrindiau. Gallwch ddweud bod trefnu digwyddiadau yn swydd berffaith i fi.

Oherwydd gwaith fy ngŵr, symudon ni i Geredigion yn 2012. Treuliais ychydig o flynyddoedd fel Gweithiwr Cefnogaeth a Swyddog Tai cyn ymuno â Chyngor Sir Ceredigion yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2016. Tra yno, fe wnes i gael gwybod am fy rôl bresennol fel Cydlynydd Gwyliau Bwyd a Diod.

Rydw i wedi wastad wedi hoffi pob agwedd ar fwyd, ac un o fy hoff bethau yw bwyta allan a cheisio bwydydd gwahanol. Yn fy amser hamdden, rwy’n dwlu ar goginio ac wedi bod ar gyrsiau alrwyo a choginio. Pan nad yn coginio neu’n bwyta, rwy’n hoff iawn o fynychu gwyliau bwyd ac archwilio marchnad ffermwyr. Dyna pam y gwnaeth popeth am y rôl yma apelio ata i; nid yn unig y mae’r swydd yn cynnwys sgiliau sefydliadol a gweithio gyda phobl, ond yn fwy pwysig mae’n cynnwys bod o gwmpas bwyd, bwyd da.

Fy swydd
Fy mhrif rôl yw cydlynu Marchnad Ffermwyr Aberystwyth. Mae rhan fwyaf fy ngwaith yn digwydd yn y diwrnodau sy'n arwain at y farchnad. Mae fy swydd yn rhan amser ac rwy’n hoffi’r hyblygrwydd y mae hyn yn rhoi i fi. Mae’r Marchnad Ffermwyr yn cael ei weinyddu yng Nghanolfan Bwyd Cymru yn Horeb, ble mae fy swyddfa wedi lleoli. Dyma ble rydw i’n treulio rhan helaeth o fy amser, yn gwneud tasgiau fel diweddaru basdata clientiaid y farchnad, cytundebau trwydded, systemau cyllid a hawliau parcio.

Er bod y farchnad yn cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Ceredigion trwy Canolfan Bwyd Cymru, mae rhan o fy amser yn cael ei dreulio yn cwblhau ceisiadau cyllideb i greu incwm ychwanegol o ffynonellau eraill. Mae ein stondinau ar gael i asiantaethau allanol i’w llogi, llogi preifat, elusennau, ysgolion ac rwy’n delio gyda’r holl ymholiadau yma.

Mae fy nghydweithwyr yn y Ganolfan yn ardderchog. Mae awyrgylch grêt a teimlad o fod yn rhan o dîm yno, ac heb amheuaeth, nhw yw’r grŵp o bobl gorau rydw i wedi gweithio gyda. Rydw i wir ar goll ar fy niwrnodau bant o’r swyddfa!

Y peth rwy’n mwynhau fwyaf am fy swydd yw’r amrywiaeth a dwi’n cael y balans iawn rhwng gwaith yn y swyddfa a thu allan. Pan nad wyf yn y swyddfa, gallwch fy ngweld gyda fy ngwisg fest hi-vis yn sefyll wrth stondin gwybodaeth Canolfan Bwyd Cymru ym Marchnad Ffermwyr Aberystwyth. Mae’r Farchnad yn rhedeg ar Rodfa’r Gogledd, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd o bob mis. Mae’r farchnad wedi ennill gwobrau a bydd yn dathlu ei ben-blwydd yn ddeunaw ym mis Mai.

Paratoi at y Farchnad
Ar y dydd Mercher cyn y farchnad ar y dydd Sadwrn, gall y gwaith ddod a strwythur. Byddaf yn ymateb i nifer fawr o ebyst yn amrywio o ddelio gyda cheisiadau o stondinwyr potensial newydd, amrywiaeth eang o gwestiynau o stondinwyr presennol, ymholiadau ynglŷn â digwyddiadau arbennig sydd ar y gweill a chyfathrebu gyda Swyddfa Iechyd yr Amgylchedd a’r Asiantaeth Safonau Masnach. Hefyd ar ddydd Mercher, byddai’n mynychu cyfarfodydd y tîm a chyrsiau hyfforddiant, a gosod baneri mewn amryw o leoliadau o gwmpas Aberystwyth i hyrwyddo’r farchnad.

Mae angen i stondinwyr roi gwybod i mi a talu am eu stondin erbyn 4yp ar ddydd Iau cyn y farchnad. Mae dydd Iau yn cael ei dreulio’n cyfathrebu gyda stondinwyr, delio gyda taliadau a sicrhau bod y system cyllid yn gyfredol.

Erbyn 10yb dydd Gwener, ar ôl derbyn y rhif terfynol i’r farchnad, rwy’n cynllunio trefn y farchnad. Byddai’n rhannu’r cynllun gyda’r stondinwyr ac yn rhoi gwybod i’r contractwyr faint o stonindau a byrddau sydd eu hangen – hyn oll ar ôl cael golwg ar ragolygon y tywydd ar gyfer y dydd Sadwrn! Ar ôl creu ychydig o ddeunydd hyrwyddo, yn nodi rhestr o’r stondinwyr, eu enw masnachol a’r cynhyrchion, mae’r diwrnod yn dod i ben gan aros i weld beth sy’n mynd i ddigwydd yn y bore.

Rhan fawr fy rôl yw codi ymwybyddiaeth o’r farchnad sydd i ddod. Mae’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn ffordd wych i ledaenu’r neges. Rwy’n cysylltu a Tîm y Ŵe y Cyngor i ddiweddaru gwefan Marchnad Ffermwyr Aberystwyth. Mae tudalennau cyfryngau cymdeithasol Canolfan Bwyd Cymru yn cael eu diweddaru ac mae Tîm Cyfathrebu'r Cyngor yn rhannu’n ehangach. Rydw i hefyd yn diweddaru tudalennau ‘Beth sy ‘mlaen’ Radio Ceredigion a rhannu’r wybodaeth i’r holl dudalennau priodol.

Diwrnod Marchnad
Mae’n ddechrau cynnar ar ddydd Sadwrn y farchnad ac rydw i’n gadael y tŷ am 6yb. Unwaith rydw i’n cwrdd â’r contractwr a’i dîm, rwy’n sicrhau bod yr holl stondinau a rhifau’r byrddau wedi’u gosod yn gywir ac yn trefnu fy ngwybodaeth fy hunan ac arwyddion eraill. Mae’r masnachwyr yn cyrraedd o 7:30yb, ac rydw i’n darparu cymorth i'r masnachwyr sydd angen bach o help, gan gynnwys dadlwytho a gosod eu stondinau. Mae angen i fi fod ar gael i sicrhau eu bod wedi defnyddio'r stondin cywir - gall fod trychineb os bod stondin yn gosod ar stondin masnachwr arall. Ar ôl cael fy nghoffi , a phastai caws gafr, rwy’n barod am y chwe awr nesaf!

Mae masnachu yn dechrau am 10yb ac mae'r diwrnod ar y farchnad yn amrywio o fonitro ymarfer Iechyd a Diogelwch, hylendid bwyd a materion sbwriel, ymateb i ymholiadau cwsmeriaid a stondinwyr, cymryd lluniau a fideos hyrwyddo ac ymgymryd â holiaduron boddhad gyda chwsmeriaid.

Ar ddiwrnod heulog, does dim lle gwell i fod na'r farchnad. Mae yna awyrgylch cyfeillgar, cadarnhaol rhwng y masnachwyr a'r cwsmeriaid. Mae'r stondinwyr yn bobl hyfryd ac yn llawn hwyl. Maent wastad yn hapus i gael clonc gyda'r cwsmeriaid ynglyn a'u cynnyrch gyda teimlad personol i'r holl brofiad. Mae'r diwrnod yn hedfan ar y farchnad, a does dim byd yn rhoi mwy o bleser i fi na pan mae'r diwrnod yn dod i ben gyda’r masnachwyr yn dweud am ba mor llwyddiannus y mae'r diwrnod o werthu wedi bod.

Rydw i wedi cael cwpwl o ddiwrnodau marchnad ble bu'r tywydd oer yn chwerw neu bwrw glaw. Dyw’r diwrnodau yma ddim cystal a’r dyddiau heulog! Oherwydd amodau tywydd gwael iawn, ac o ystyried iechyd a diogelwch, roedd yn rhaid i fi wneud y penderfyniad caled a chanslo dau farchnad ar ddechrau 2018. Rwy'n siŵr fel ein bod ni'n cyrraedd misoedd yr haf y byddwn ni'n cael nifer o farchnadoedd yn yr haul ble byddwn yn croesawu’r preswylwyr a thwristiaid fel ei gilydd, i roi cynnig ar yr hyn sydd gan y farchnad.

Cynhyrchwyr
Mae popeth chi'n gweld ar y farchnad wedi cael eu tyfu a’u cynhyrchu'n lleol gan y person sy'n gwerthu ar y stondin. Un agwedd o fy rôl rwy'n mwynhau yw cwrdd â chynhyrchwyr presennol ar eu ffermydd a lleoliadau i weld ble mae'r gwaith go iawn yn cael eu cynnal. Rwy'n ceisio gwneud mwyafrif o fy siopa o'r farchnad, felly mae cael y siawns i weld sut mae'r cynnyrch yn cael eu tyfu o lygad y ffynnon yn fonws. Rwy'n hoffi cefnogi'r masnachwyr cymaint ag sy’n bosib ac mae amrywiaeth y cynnyrch yn anhygoel. Mae fy ngŵr yn dweud jôc ein bod ni'n bwyta fel brenin a brenhines yn ystod yr wythnos ar ôl marchnad. Rwy'n cyffroi bob tro y mae stondinwyr newydd yn ymuno â ni, oherwydd mae'n golygu y medrai flasu hyd yn oed mwy o fwyd o ansawdd da.

Mae nifer o bobl yn meddwl bod y farchnad yn cynnwys bwyd yn unig, ond mae amrywiaeth eang o gwrw, gwinoedd, seidr a jin wedi'u cynhyrchu'n lleol ar werth ar y farchnad, yn ogystal â stondinau crefft ac anrhegion hyfryd o waith llaw.

Ffair Bwyd, Diod a Chrefft Aberystwyth
Eleni, mae gennym ni ddigwyddiad newydd sy'n cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn olaf mis Medi; ‘Ffair Bwyd, Diod a Chrefft Aberystwyth’. Mae gennym ni 30 stondin wedi archebu eu lle yn barod, ac rwy'n gobeithio bydd y digwyddiad yma yn fwy na digwyddiadau blaenorol. Ar y foment, rwy'n edrych am gantorion ar gyfer adloniant byw.

Y dyfodol
Does dim un diwrnod arferol ym mywyd Cydlynydd Gwyliau Bwyd a Diod, a dyna pam rwy'n mwynhau fy rôl cymaint. Ers dechrau yn y swydd, rydw i wedi trefnu gŵyl fwyd, Ffair Nadolig, cydlynu deunydd hyrwyddo newydd ac wedi cyflwyno dros ddwsin o stondinau newydd i'r farchnad. Yn symud ymlaen, rwy'n meddwl o hyd am ffyrdd o wella'r farchnad. Byddai'n mynychu gweithdai, seminarau a hyfforddiant yn y dyfodol agos i gynyddu fy sgiliau mewn marchnata, brandio a hyrwyddo er budd y farchnad.

Pen-blwydd arbennig
Eleni, mae’r Ffair Wanwyn yn nodi pen-blwydd arbennig Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn 18 oed ac yn cael ei gynnal ar hyd Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth rhwng 10yb a 2yp ar ddydd Sadwrn, 19 Mai.

Dewch i fy ngweld i a'r stondinwyr yn Marchnad Ffermwyr Aberystwyth. Os hoffech gael gwybod mwy am y marchnadoedd, neu a diddordeb mewn sefydlu eich stondin eich hunan, cysylltwch â fi ar 01559 362230 neu e-bostio gen@foodcentrewales.org.uk.

16/05/2018