Rydw i wedi cael gyrfa amrywiol iawn, roeddwn i’n gynrychiolydd gwerthu llwyddiannus ac yn byw yn ne Cymru am ymron i 30 mlynedd. Bûm hefyd yn rhedeg tafarn yn Lerpwl, o ble rwy’n dod yn wreiddiol, a bûm yn yrrwr lori ddosbarthu i gynhyrchydd bara. Wedi cyfnodau yn byw yn yr Iseldiroedd a'r Almaen, symudais i Geredigion bedair blynedd yn ôl. Clywais am rai swyddi gwag yng ngwasanaeth casglu gwastraff y cyngor a meddyliais pam lai?

Gyrfa newydd yn chwa o awyr iach

Cyflwynais gais a llwyddo i gael fy mhenodi yn llwythwr i griw casglu gwastraff sydd yn gweithio o’r depo ym Mhenrhos, ger Llandysul. Fel llwythwr, fi yw un o'r bobl yn y tîm sy'n mynd i mewn ac allan o'r lori wastraff, gan gasglu gwastraff pobl.

Ers i mi ddechrau yn y rôl hon, rwyf wedi cwblhau NVQ sy’n rhoi caniatâd i mi yrru cerbyd nwyddau (LGV) .

Y rhan orau o'r gwaith yw bod allan yn yr awyr agored, a bod mor ffodus â chael gweithio yng nghanol prydferthwch cefn gwlad Ceredigion.   Oeddech chi sylweddoli bod y timau casglu yn casglu tua 65 tunnell o wastraff bob dydd? Mae hyn yn cyfateb i 54 car. Yn sicr mae hyn yn ein cadw ni’n heini – does dim angen gwario arian ar fod yn aelod o gampfa!

Diwrnod arferol

Mae'r diwrnod yn dechrau yn yr ystafell ymgynnull, lle mae holl aelodau'r criw casglu yn ymgynnull i glywed pa lwybrau y byddwn yn gweithio arnynt am y diwrnod ac i gasglu'r allweddi ar gyfer y lori benodol y byddwn yn ei defnyddio y diwrnod hwnnw. Wedyn, mae'n bryd mynd allan i wirio’r cerbyd gyda'r gyrrwr. Mae’r llwythwyr yn gwneud yn siŵr fod ganddynt ddigon o fagiau ailgylchu a leinwyr gwastraff bwyd ar gyfer y daith ac yna pan fydd pob dim yn iawn o ran y lori, bant â’r cart!

Pan gyrhaeddwn ni’r man galw cyntaf, rydw i a’r llwythwyr eraill yn dod allan o’r lori a dyna pryd mae'r gwaith caled yn dechrau. Wrth i ni gerdded ochr yn ochr â’r lori, rydym yn gadael bagiau clir pan welwn fagiau â sticeri melyn ac rydym yn rhoi sticeri coch ar unrhyw fagiau sy'n cynnwys deunyddiau annerbyniol, er mwyn tynnu sylw at y deunydd tramgwyddus. Rhoddir leinwyr bwyd newydd ar gyfer y biniau bwyd os oes angen.

Gwaith tîm

Efallai bod y ffordd rydym yn casglu'r sbwriel yn ymddangos braidd yn ddi-drefn i rai,  ond mae’r ffordd rydym yn gweithio fel tîm wedi ei drefnu’n hynod o fanwl a gofalus. Mae pob aelod o'r criw yn gwybod yn union beth i'w wneud a ble i leoli eu hunain mewn perthynas â'r lori, fel bod y gyrwyr a’r camerâu diogelwch yn eu gweld. Mae pob tîm yn rhan o dîm mwy, sy'n cyfathrebu'n gyson â'i gilydd os oes gan unrhyw dîm broblemau. Mae pob tîm yn ymroi i fod yn gefn i’w gilydd. Mae ein Goruchwyliwr yn cydlynu pethau o bell, gan sicrhau fod y gwaith wedi ei gwblhau ar yr holl lwybrau.

Cefnogaeth preswylwyr

Mae'r cyhoedd yn eithaf da ac fel rheol yn eithaf cefnogol.  Wrth gwrs fe fydd yna eithriadau ond mae hynny’n wir beth bynnag a wnewch. Rydyn ni'n ffodus fod gennym bobl ardderchog yn gweithio yn yr adran casglu gwastraff yn y Depo ym Mhenrhos  – ac mae hyn yn wir am y tîm sydd allan yn casglu gwastraff a’r tîm yn y Swyddfa. Mae pethau bach yn mynd o chwith, fel bagiau'n torri, ond dyna ni, mae’n rhan o’r gwaith, ond dim ond rhan. 

Yr ydym yn ffodus fod llawer o bobl yn dweud wrthym wyneb yn wyneb, wrth i ni wneud ein gwaith, gymaint maen nhw’n gwerthfawrogi’r gwaith caled y mae ein criwiau gwastraff yn ei wneud. Mae'n dod â gwên i'n hwynebau pan fydd pobl yn dod allan o’u tai i'n cyfarch ni a phlant yn codi llaw arnom wrth i ni gasglu'r gwastraff yn eu stryd. Mae'r gefnogaeth hon yn help i godi calon, a ninnau‘n gwybod fod pobl yn gwerthfawrogi ein bod yn gwneud ein gorau glas i geisio cadw'r sir yn lân.

Mae pobl yn aml yn aros ac yn siarad â ni pan fyddan nhw’n dod atom i gasglu mwy o fagiau ailgylchu a leinwyr gwastraff bwyd.

Mae hi’n llawer mwy dymunol ac yn llawer iachach a glanach i'r criw pan allwn wagio biniau bwyd sydd wedi eu leinio; nid yw'n dasg bleserus o gwbl pan fo’n rhaid i ni wagio biniau bwyd heb eu leinio a’r biniau hynny yn orlawn o fwyd wedi pydru!

Mae llawer ohonom yn ymwybodol iawn bod angen i ni ailgylchu mwy ac mae llawer o bobl eisoes yn defnyddio'r bagiau ailgylchu clir a'r biniau gwastraff bwyd a ddarperir gan y Cyngor. Fodd bynnag, mae yna gyfleoedd o hyd i ailgylchu mwy. Yn anffodus, rydym yn dal i weld rhai cartrefi nad ydynt yn ailgylchu o gwbl. Oeddech chi’n gwybod ei bod hi’n costio llawer mwy i'r cyngor ddelio â gwastraff bagiau du na delio â gwastraff ailgylchu?

Pe bai pawb yn defnyddio gwasanaeth casglu gwastraff y Cyngor yn iawn, byddai ein swyddi yn llawer haws, a byddai'n arbed arian i'r Cyngor, arian y gellid ei ddefnyddio ar draws gwasanaethau eraill.

Dyfodiad y fflyd newydd

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda fflyd sy'n heneiddio; er mwyn cynnal y  gwasanaeth roedd yn rhaid i'r criw ymroi gant a mwy y cant, heb sôn am y mecanyddion sy'n gwneud gwaith gwych i'n cadw ni ar y ffordd.

Weithiau, er gwaethaf pob ymdrech i leihau unrhyw darfu ar y gwasanaeth, mae problemau'n codi a all effeithio ar gasglu gwastraff. Cofiwch, os nad yw eich biniau wedi eu casglu, edrychwch ar y dudalen Aflonyddwch i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar yr hyn y dylech ei wneud gyda'r gwastraff; a ddylid ei adael allan neu ei gasglu yn ôl i mewn a’i ail-gyflwyno ar y diwrnod casglu nesaf.

Mae cyffro mawr o fewn y timau ar hyn o bryd gan y bydd y cerbydau casglu gwastraff newydd yn dechrau cyrraedd yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y rhain yn gwneud gwelliannau sylweddol i effeithiolrwydd y gwasanaeth ac yn lleihau ychydig ar y pwysau sydd ar y criw.

Trefniadau casglu newydd ar fin dechrau!

Yn y gwanwyn, byddwn yn dechrau cyflwyno ein gwasanaeth casglu gwastraff newydd ledled y sir. Bydd bagiau ailgylchu clir a gwastraff bwyd yn parhau i gael eu casglu bob wythnos. Bydd y bag du yn cael ei gasglu bob tair wythnos. Bydd casgliad newydd o boteli a jariau gwydr yn cael ei gyflwyno bob tair wythnos, a bydd casgliad ar wahân ar gyfer cewynnau a gwastraff tebyg bob bythefnos (ar gais).

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth newydd ewch i: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-newydd-yn-dechrau-yn-fuan/

Rwy'n falch fy mod yn rhan o'r gwasanaeth newydd cyffrous hwn ac yn rhan o dîm mor wych, yma yng Ngheredigion.

 

28/03/2019