Graddiais fel gweithiwr iechyd cofrestredig a dechreuais ar fy ngyrfa yn y gwasanaeth iechyd yn ôl yn 1994. Cyn gweithio i'r Cyngor, roeddwn yn rheolwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cymdeithas dai. Hefyd rwyf wedi bod yn rheoli gwasanaethau trydydd sector ar gyfer pobl fregus, ar y cyrion, oedd ag anghenion cymhleth. Dechreuais ar fy rôl bresennol fel arweinydd tîm Porth y Gymuned ym mis Mai 2018.

Cysylltu pobl â'r gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen

Dechreuodd gwasanaeth Porth y Gymuned ym mis Mai 2018 ac mae'n helpu trigolion o bob oed yng Ngheredigion i wneud cysylltiadau er mwyn manteisio ar gymorth yn eu hardal gyda’r nod o gynnal a gwella’u llesiant.

Mae’r ymholiadau a ddaw i Borth y Gymuned yn amrywiol iawn, o ymyriadau ‘lefel isel’ i atgyfeiriadau a chefnogi unigolion sydd angen mynediad i wasanaethau dwys neu statudol. Felly, mae fy sgiliau a'm profiad blaenorol wedi bod yn werthfawr i sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei roi ar yr adeg iawn.

Ein tîm

Mae tîm Porth y Gymuned yn cynnwys pedwar Cysylltydd Cymunedol, Carys, Sam, Enfys a Diane ac maen nhw'n grŵp byrlymus a brwdfrydig sy'n gwrando ar drigolion ac sy’n awyddus i helpu i ddod o hyd i atebion pwrpasol a fydd yn diwallu anghenion y trigolion.

Fel arweinydd y tîm, rwy'n derbyn yr holl atgyfeiriadau i Porth y Gymuned ac yn eu blaenoriaethu'n briodol i sicrhau ein bod yn gallu cynnig y cymorth cywir ar yr adeg iawn. Os byddaf yn asesu bod anghenion y person yn fwy na'r hyn y gallwn ei gynnig, byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau ein bod yn cefnogi’r person ac yn ei gyfeirio at y gwasanaeth cywir i ddiwallu ei anghenion a'i gefnogi nes iddo gael y cymorth cywir.

Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r tîm fel grŵp i rannu arferion da ac i helpu i nodi materion/anghenion traws-sirol y gallai fod angen ymchwilio ymhellach iddynt. Er enghraifft, fel sir wledig, mae cludiant wedi bod yn broblem erioed ac yn rhwystr i fynd o le i le. Rydym wedi dechrau mynd i'r afael â hyn yn ddiweddar ac rydym yn gobeithio cydweithio â darparwyr o’r trydydd sector i wella gwasanaethau trafnidiaeth yn y dyfodol.

Yn ddiweddar, nodwyd gennym fod pobl yn ei chael hi'n anodd gwneud cais neu ailymgeisio am Fathodyn Glas am nad oeddent yn gallu symud digon i ymweld â bwth lluniau neu â’r llyfrgell leol (lle gallwch gael eich llun wedi’i dynnu am ddim).  Rydym bellach yn gallu ymweld â rhywun yn ei gartref i helpu i dynnu lluniau a llenwi ffurflenni. Rydym yn chwilio am ffyrdd o gynorthwyo pobl i gysylltu â beth bynnag sy'n bwysig iddyn nhw. Gallai hyn fod o gymorth iddynt fyw'n annibynnol neu i fynd i'r afael â rhywbeth sy’n peri gofid.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth

Rhan o fy rôl yw rheoli Dewis Cymru a'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ynghyd â Phorth y Gymuned, gan sicrhau ein bod yn gallu darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddinasyddion o bob oed yng Ngheredigion.

‘Siop pob dim’ ar gyfer lles yng Nghymru yw Dewis Cymru ac mae’n cynnig cyfeirlyfr er mwyn i ddefnyddwyr ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau mewn meysydd fel iechyd, rheoli arian a diogelwch.

Gall sefydliadau, cymunedau a'r cyhoedd ddefnyddio Dewis Cymru i roi gwybod i bobl am yr hyn sydd ar gael yn eu hardal.

Er enghraifft, grŵp cyfeillgarwch yn cynnal bore coffi rheolaidd, grŵp cymunedol yn trefnu taith gerdded yn yr ardal leol, neu dafarn yn cynnal noson meic agored wythnosol. Gellir rhoi unrhyw fath o ddigwyddiad neu adnodd ar Ddewis Cymru, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan olygydd. Gall y Cyngor, grwpiau gwirfoddol a grwpiau trydydd sector hefyd roi gwybodaeth ar Ddewis Cymru am yr adnoddau a'r gwasanaethau a gynigir ganddynt.

Rôl gwerth chweil

Nid oes yr un diwrnod yr un peth â’r llall ac mae bob amser yn deimlad da gwybod fy mod i a’r tîm wedi helpu rhywun i wella’i lesiant neu wedi atal rhywun rhag mynd i anhawster yn ddiangen.

Mae llesiant da yn bwysig i'n hiechyd yn gyffredinol – iechyd meddwl a chorfforol. Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu na fyddwn byth yn profi teimladau neu sefyllfaoedd sy'n anodd i ni, megis profedigaeth, salwch a straen bywyd. Fodd bynnag, os oes gennym lesiant da, rydym yn llawer mwy tebygol o ymdrin â'r anawsterau hyn mewn modd gwydn ac ymdopi pan fo'r amserau’n galetach nag arfer.

Mae cael rhywun i drafod yr hyn sy'n bwysig i chi a rhywun sy'n gallu cynnig amser i’ch helpu i lywio'ch ffordd drwy gyfnodau anodd yn werthfawr iawn i bobl, yn enwedig i’r rheiny sydd wedi'u hynysu neu'n unig – a gallai’r rhain fod yn unrhyw un o unrhyw oedran.

Ewch i dudalen y Llwybr Lles a Gofal ar wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth am sut mae Porth y Gymuned a Phorth Gofal yn gweithio.

Defnyddiwch ffurflen gyswllt ar-lein y Cyngor i gysylltu â Phorth y Gymuned neu ffoniwch 01545 574200.

 

08/11/2019