Cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr ar 30 Tachwedd yn Yr Hen Goleg, Aberystwyth. Bydd y digwyddiad yn helpu Gofalwyr i wybod beth yw eu hawliau, i helpu Gofalwyr ddod o hyd i’r help maent yn haeddu, a chodi ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr.

Bydd Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal y digwyddiad, gyda nifer o sefydliadau yn cynnig help a chymorth i ofalwyr.

Bydd y Cyngor a sefydliadau arall yn cynnig ystod eang o wybodaeth a chymorth trwy gyfrwng arddangosiadau, cyflwyniadau a gweithdai. Bydd gan Ofalwyr y cyfle i siarad â gweithwyr proffesiynol ar sail un wrth un, gwrando ar sgyrsiau a chymdeithasu â Gofalwyr eraill dros baned o de.

Mae gofalwyr yn darparu gofal di-dâl wrth edrych ar ôl aelod teulu, ffrind neu bartner sydd yn sâl, yn fregus neu’n dioddef o afiechyd meddwl, cyffuriau ac alcohol. Mae 6,000 o bobl yn dechrau gofalu bod diwrnod. Gall hyn ddigwydd yn sydyn gyda genedigaeth, salwch neu ddamwain. Gall ofalu hefyd ddechrau yn raddol.

Dwedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Eiriolwr Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Gofalwyr, “Gall cael y wybodaeth gywir wrth i berson ddechrau gofalu gwneud gwahaniaeth enfawr. Hefyd, hyd yn oed os ydych wedi bod yn gofalu am ddegawdau, mae’n hollbwysig bod gofalwyr yn sicrhau eu bod yn cael pob cefnogaeth sy’n bosib.”

Estynnir croeso i bob Gofalwr a gall y person maent yn gofalu am ddod hefyd. Does dim angen aros trwy’r dydd, mae croeso i bobl alw heibio ar unrhyw adeg rhwng 10.30yb a 3.30yp, gan aros cyhyd ag y maent yn dymuno. Bydd te a choffi a chinio cawl a bara am ddim. Cynhelir y digwyddiad yn Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, SY23 2AX.

Am fwy o wybodaeth am Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, ewch i wefan y Cyngor ar: www.ceredigion.gov.uk/gwybodaethiofalwyr.

20/11/2018