Dyma’r diweddaraf o ran heolydd a phontydd am 19:45, 14.10.2018.

Mae’r heolydd a’r pontydd canlynol yn parhau i fod ar gau oherwydd llifogydd a phryderon diogelwch, a byddant yn cael eu hail-asesu ar ddydd Llun 15 Hydref.

• Pont Llechryd
• Pont Cenarth
• Pont Castell Newydd Emlyn
• B4343 Cellan
• B4476 Abercerdin
• B4459 Capel Dewi
• A484 rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi

Gellir defnyddio ffyrdd eraill â gofal, ac mae’r isod wedi ail agor.

• Pont Llandysul
• A485 Betws Bledrws
• A482 Felinfach
• Pont Llanbedr Pont Steffan ger Co-op
• Pont Llanybydder
• A44 Lovesgrove i Llanbadarn

• B4337 Talsarn

Lle mae ffyrdd ar gau, mae hyn ar gyfer diogelwch pawb. Gofynnir i bobl byth eu hanwybyddu a pheidio a gyrru trwy ddŵr llifogydd.

Mae rhai rhybuddion llifogydd ar waith mewn ardaloedd o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Am fanylion llawn, gweler: www.naturalresourceswales.gov.uk

Mae rhai gwaith glanhau wedi cychwyn. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i helpu gwneud hyn yn ddiogel: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/94751

14/10/2018