Mae Ceredigion wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o coronafeirws dros gyfnod y Nadolig. Oherwydd hyn, penderfynwyd gohirio ailagor cyfleusterau hamdden y Cyngor.

Mae nifer yr achosion o COVID-19 yng Ngheredigion ar ei lefel uchaf ers dechrau'r pandemig, sef 1,760 fesul 100,000 o'r boblogaeth. Mae hyn yn cyfateb i 1,280 o achosion dros y 7 diwrnod diwethaf gyda chyfradd bositif o 50.1%, sy'n golygu bod dros 1 o bob 2 o bobl a brofwyd yn bositif. Ers dechrau mis Rhagfyr, mae Ceredigion wedi cael dros 3,000 o achosion o COVID-19 gan ddod â’r cyfanswm i 9,642 ers dechrau'r pandemig.

Mae'r nifer sylweddol o achosion yn cael effaith ar ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac rydym yn gofyn i staff wirfoddoli, lle y bo'n briodol, i'n helpu i gynnal y gwasanaethau hynny dros yr wythnosau nesaf, yn enwedig gofal cymdeithasol.

Mae'r gwaith adfer a chynnal a chadw yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi, Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Hamdden Plascrug bellach wedi'u cwblhau, sy'n golygu bod holl gyfleusterau'r Awdurdod Lleol mewn sefyllfa i ailagor, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu ar ddiwedd y mis a bydd y dyddiadau ailagor yn dibynnu ar nifer yr achosion a'r capasiti staffio. 

Pan fydd y cyfleusterau'n ailagor, er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo ac i ddiogelu preswylwyr a staff, bydd y gweithdrefnau canlynol yn berthnasol ym mhob cyfleuster:

  • bydd angen archebu holl weithgareddau o flaen llaw
  • rhaid i staff ac ymwelwyr gymryd prawf llif unffordd
  • llai o gapasiti
  • rhaid cadw pellter cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl
  • rhaid gwisgo masg tu fewn y cyfleuster (heblaw wrth wneud ymarfer corff)
  • taliadau cerdyn a ffafrir
  • darparu Asesiad Risg covid / Cynllun Dychwelyd i Chwarae at Ddefnydd Cymunedol

Bydd gwybodaeth a diweddariadau yn cael eu rhoi ar wefan Ceredigion Actif: www.ceredigionactif.org.uk a'r tudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram.

Mae'r Cyngor yn cydnabod ei fod wedi bod yn gyfnod heriol ac anodd i bawb dan sylw. Edrychwn ymlaen at groesawu trigolion Ceredigion yn ôl i'n cyfleusterau, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a rhoi cyfle i chi fod yn gorfforol egnïol unwaith eto.

Cyhoeddir rhagor o wybodaeth maes o law.

06/01/2022