Ar ôl ymgeisio yng nghystadleuaeth Cymry Coch Chwaraeon Cymru, derbyniodd Ysgol Gynradd Penrhyncoch ymweliad gan Jordan Howe, Medalwr Paralympaidd a'r Gymanwlad a Kane Charig, Medal Arian y Gymanwlad.

Rhoddwyd cyfle i'r disgyblion ofyn cwestiynau a chael eu hysbrydoli gan lwyddiannau'r athletwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros Hamdden, “Mae disgyblion Ysgol Gynradd Penrhyncoch wedi bod yn ffodus iawn i gwrdd ag, a chael cyfle i gael eu hysbrydoli gan fedalwyr chwaraeon. Mae'r chwaraewyr hyn wedi gweithio'n galed i gyrraedd y safle y maent heddiw, ac efallai bod gennym seren ifanc y dyfodol yn ein plith.”

Ar ôl ymweliad y bore, roedd y disgyblion yn ffodus i dderbyn Hyfforddiant Byr ar Gynhwysiant Anabledd i gynyddu eu gwybodaeth am chwaraeon anabl ac i annog pwysigrwydd cyfranogiad cynhwysol mewn chwaraeon yn ystod amser ysgol, amseroedd chwarae, bywyd gartref ac yn eu clybiau chwaraeon.

“Y llynedd, derbyniodd 327 o ddisgyblion Blwyddyn 6 yr hyfforddiant yma. Mae'n bwysig bod disgyblion yn cael yr hyfforddiant i ddeall pam ei bod mor bwysig bod pawb yn gallu, ac yn cael eu hannog, i gymryd rhan mewn chwaraeon waeth beth yw eu gallu,” meddai Gemma Cutter, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru, a gyflwynodd yr hyfforddiant cynhwysiad.

Mae Hyfforddiant Byr ar Gynhwysiant Anabledd ar gael i ddisgyblion blwyddyn 6 yn Ysgolion Cynradd Ceredigion i godi eu hymwybyddiaeth o chwaraeon cynhwysol ac anabledd. Cysylltwch â gemmac@ceredigion.gov.uk am ragor o wybodaeth.

20/09/2018