Wedi’i ariannu gan Grant Peilot Gwaith Ieuenctid Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, cymerodd dros 400 o ddisgyblion Ysgol Bro Pedr ran mewn gweithdai gydag Ed Holden (Mr Phormula) dros gyfnod o bedwar diwrnod ym mis Mawrth 2022.

Mae Mr Phormula yn un o arloeswyr y sîn bît-bocsio yn y DU. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw.

Roedd y gweithdai’n canolbwyntio ar bîtbocsio, creu synau, defnyddio technoleg, defnyddio llais ac ysgrifennu rap, i gyd tra’n datblygu hyder trwy ddefnyddio’r Gymraeg. Roedd pob gweithdy hefyd yn gyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau, a dysgu am brofiadau Mr Phormula a sut mae’r Gymraeg wedi bod o fudd i’w yrfa gerddorol.

Mae doniau dwyieithog Mr Phormula yn unigryw ac mae hyn, ynghyd â’i rhythmau slic, llinellau bas cymhellol a’i ddawn leisiol, wedi datblygu cefnogwyr ymroddedig ym mhob rhan o Gymru, y DU ac UDA. Ef yw pencampwr Lwpio Cymru ar hyn o bryd, ac yn 2013, bu’n is-bencampwr Lwpio’r DU. Mae wedi gweithio gyda rhai o fawrion y byd hip hop gan gynnwys The Pharcyde, Jungle Brothers, Boy Better Know, Plan B, Professor Green a Krs-One, ac mae hyn oll yn dangos ansawdd a chwmpas doniau cynhyrchu Mr Phormula sy’n ategu natur farddonol ei ddwyieithrwydd.

Dywedodd Mrs Llinos Jones, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Bro Pedr, “Diolch yn fawr i Ed Holden am ymweld â ni yn Ysgol Bro Pedr. Mae’r adborth gan ddisgyblion wedi bod yn bositif tu hwnt, ac mae amlwg bod pawb wedi mwynhau’r profiad yn fawr. Cafodd y disgyblion gyfle i ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu hyder. Rwy’n siŵr y bydd nifer o ddisgyblion yn cael eu hysbrydoli’n gerddorol a ieithyddol o ganlyniad i’r gweithdai. Gobeithiwn allu croesawu Mr Phormula yn ôl i Ysgol Bro Pedr eto yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am waith Mr Phormula, ewch i: HAFAN (mrphormula.com)

28/03/2022