Gofynnwyd i Grŵp Gyswllt o ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul hunan-ynysu am 10 diwrnod ar ôl cadarnhau achos arall o COVID-19 yn yr ysgol.
Rhaid i'r disgyblion a'r staff hyn aros gartref am 10 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
Mae'r Ysgol wedi cysylltu â phob rhiant.
Mae'r Cyngor yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw'n datblygu unrhyw un o'r symptomau, sef:
- tymheredd uchel
- peswch parhaus newydd
- colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy'n gysylltiedig â'r ffliw fel arfer.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu trwy ffonio 119.
Ni ddarperir unrhyw fanylion pellach ynglŷn â'r mater hwn.
14/12/2020